Ysbryd Perthynol (cerflun): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae '''Ysbryd Perthynol''' (en: Kindred Spirits) yn gerflun dur awyr agored mawr ym Mharc Bailic yn Midleton, Iwerddon, sy'n cofio haelioni Cenedl Cho...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Mae '''Ysbryd Perthynol''' (en: Kindred Spirits) yn gerflun dur awyr agored mawr ym Mharc Bailic yn Midleton, [[Iwerddon]], sy'n cofio haelioni Cenedl Choctaw, cenedl gynhenid Americanaidd, i bobl [[Iwerddon]] ar adeg ''An Gorta Mór'' [[Newyn Mawr Iwerddon]].
 
==Y Choctaw==
 
Mae'r Choctaw yn bobl frodorol Americanaidd, yn wreiddiol o dde ddwyrain [[Unol Daleithiau America]]; [[Mississippi]], [[Florida]], [[Alabama]], a [[Louisiana]] bellach. Ym 1831 gorfodwyd y Choctaw o'u tiroedd cynhenid i'r hyn a elwir bellach yn [[Oklahoma]] ar ymdaith a elwir yn ''Llwybr Dagrau''. Gan newynu, rhewi a salwch ar y daith bu llawer ohonynt farw; o'r 21,000 Choctaw a ddechreuodd y daith, bu mwy na hanner farw o oerfel, diffyg maeth, a chlefyd.