Pasg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Gweler hefyd: Dydd Iau Dyrchafael
Dim crynodeb golygu
Llinell 5:
Digwyddodd y Groeshoeliad yn ystod y ''Pasg Iddewig'', gŵyl sy'n cael ei disgrifio yn yr [[Hen Destament]] ([[Llyfr Exodus|Exodus]] 12:1-30). Mae'r Pasg Cristnogol wedi ei sylfaenu ar y Pasg Iddewig yn drosiadol hefyd: mae'r [[Testament Newydd]] yn galw Iesu yn "Oen y Pasg" ([[Llythyr Cyntaf Paul at y Corinthiaid|1 Corinthiaid]] 5:7).
 
Gall "y Pasg" hefyd gyfeirio at "Dymor y Pasg", sy'n awr yn para am 50 diwrnod hyd y [[Pentecost]]. Mae'r Pasg yn nodi diwedd Tymor y [[Y Grawys|Grawys]].
 
Amrywia dyddiad y Pasg o flwyddyn i flwyddyn, rhwng diwedd mis Mawrth a diwedd mis Ebrill; neu i [[Eglwys Uniongred|Eglwysi Uniongred]] y dwyrain, rhwng dechrau Ebrill a dechrau Mai. Bu canrifoedd lawer o ddadlau ynghylch dyddiad y Pasg, ond yn y diwedd cytunwyd i dderbyn dull yr Eglwys Alecsandraidd, yn awr yr [[Eglwys Goptaidd]], mai'r Pasg yw'r [[dydd Sul]] cyntaf ar ôl pedwerydd diwrnod ar ddeg cylch y [[Lleuad]] sydd ar neu ar ôl [[cyhydnos]] y gwanwyn.