Opteg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
ehangu
Llinell 1:
[[File:Light dispersion of a mercury-vapor lamp with a flint glass prism IPNr°0125.jpg|thumb|right|Mae opteg yn cynnwys yr astudiaeth o gwasgariad [[golau]].]]
'''Opteg''' yw'r astudiaeth o [[golau|olau]] a'i berthynas â [[mater]].
'''Opteg''' yw'r gangen o [[ffiseg]] sy'n ymwneud â nodweddion ac ymddygiad [[golau]] a'i berthynas â [[mater]]. Mae hefyd yn ymwneud â dyfeisiadau ac offer optig sydd naill ai'n defnyddio golau neu'n ei synhwyro.<ref name=McGrawHill>{{cite book|title=McGraw-Hill Encyclopedia of Science and Technology|edition=5th|publisher=McGraw-Hill|year=1993}}</ref> Gall 'opteg' gyfeirio at nodweddion [[golau|golau gweladwy]], [[uwchfioled]] a phelydrau [[isgoch]]. Gan fod golau'n [[Tonnau electromagnetig|donnau electromagnetig]], ceir nodweddion digon tebyg gan ymbelydredd electromagnetig eraill e.e. [[pelydr-X]], [[microdonnau]] a [[tonnau radio|thonnau radio]].<ref name=McGrawHill />
 
Gellir deall y rhan fwyaf o ffenomenâu optegol drwy'r ddefnyddio electromagneteg clasurol i ddisgrifio neu ddiffinio golau, ond yn ymarferol, mae'n anodd cael y llun cyflawn. Mae opteg ymarferol yn cael ei gyflawni drwy'r defnydd o fodelau syml. Y mwyaf cyffredin o'r rhain yw opteg geometrig, sy'n trin golau fel casgliad o donnau sy'n teithio mewn llinellau syth ac sy'n plygu pan maent naill ai'n cael eu hadlewyrchu neu'n treiddio drwy gwrthrychau. Mae opteg ffisegol, fodd bynnag, yn fodel llawer mwy cyflawn a chynhwysfawr, na ellir ei brofi drwy opteg geometrig. Yn hanesyddol, y dull-pelydrau ddaeth yn gyntaf a'r model dull-tonnau wrth ei sodlau. Datblygwyd y syniadau hyn yn y [[19eg ganrif]], nes y darganfuwyd fod tonnau golau mewn gwirionedd yn ymbelydredd electromagnetig.
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
{{eginyn opteg}}
 
[[Categori:Opteg| ]]
[[Categori:Golau]]