Commodus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Awdurdod
BDim crynodeb golygu
Llinell 4:
 
==Bywgraffiad==
Yr oedd yn fab i [[Marcus Aurelius]] ac yr oedd ganddo [[efaill]], Antoninus, a fu farw yn bedair oed, a chwaer, [[Galeria Lucilla]]. Gwnaeth ei dad ef yn gyd-ymerawdwr yn [[177]]. Pan fu farw Marcus Aurelius yn [[180]], dilynodd Commodus ef ar yr orsedd. Ar y dechrau yr oedd yn boblogaidd, gan fod llawer o barch i'w dad, ond yn fuan gwelwyd fod Commodus yn fath gwahanol aro ymerawdwr. Rhoddodd rym i ffrindiau llwgr, a chynothwyoddchynorthwyodd hwy i ddwyn arian oddi ar y wladwriaeth. Yr oedd yn arbennig o hoff o ymladdfeydd [[gladiator]] a byddai'n ymladd yn yr arena ei hun yn erbyn gwrthwynebwyr oedd wedi cael cyffuriau i'w hatal rhag ymladd yn iawn neu oedd heb eu harfogi'n llawn. Gwnaeth hyn ef yn amhobolgaiddamhoblogaidd iawn gyda haenau uwch cymdeithas. Dywedir iddo orchymyn lladd y cyfan o boblogaeth un dref oherwydd ei fod yn credu fod un person wedi edrych yn gas arno, a chyhoeddodd ei hun yn dduw gyda'r enw [[Hercules]] Romanus.
 
Yn 192 distrywiwyd rhan o ddinas Rhufain gan dân, a chymerodd Commodus y cyfle i gyhoeddi ei fod yn ei hail-sefydlu dan yr enw ''Colonia Commodiana''. Ychydig yn ddiweddarach bu cynllwydcynllwyn yn ei erbyn, a thagwyd ef tra'r oedd yn cysgu gan gaethwas o'r enw Narciso. Dilynwyd ef gan [[Pertinax]]. Ar ôl ei farw cyhoeddodd [[Senedd Rhufain]] y ''[[damnatio memoriae]]''. Seilir y ffilm [[Gladiator (ffilm)|Gladiator]] (2000) yn rhannol ar fywyd Commodus.
 
==Cyfeiriadau==