Gwrthryfel y Pasg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ychwanegwyd yr enwau Gwyddeleg (a rhoi'r fersiynau Saesneg rhwng cromfachau). Nid oes reswm pam y dylai'r Saesneg gael blaenoriaeth mewn trafodaeth Gymraeg.
Gwybedyn (sgwrs | cyfraniadau)
ychwanegu ffurf Wyddeleg ar enw arall.
Llinell 6:
Rhoddwyd yr arweinwyr ar eu prawf gan y fyddin, a dienyddiwyd 16 ohonynt yn ystod hanner cyntaf mis Mai, yn eu plith Séamus Ó Conghaile (James Connolly), oedd wedi ei anafu mor ddrwg fel na allai sefyll ac ac fe'i saethwyd yn eistedd mewn cadair. Ym mis Awst, crogwyd Ruairí Mac Easmainn ([[Roger Casement]]), a aethai i'r [[Almaen]] i geisio cefnogaeth i'r gwrthryfel ac a ddychwelodd i Iwerddon mewn [[llong danfor]] ychydig ddyddiau cyn dechrau'r gwrthryfel.
 
Gyrrwyd y gweddill o'r gwrthryfelwyr i wersyll carchar yn [[Fron-goch]] ger [[Y Bala]]. Lai na thair blynedd yn ddiweddarach, roedd llawer o'r rhai a gymerodd ran yn y gwrthryfel ymysg y rhai a sefydlodd y [[Dáil Cyntaf]] yn [[1919]], a arweiniodd at sefydlu [[Gweriniaeth Iwerddon]]. Yn eu plith roedd [[Éamon de Valera]] a Mícheál Ó Coileáin ([[Michael Collins]]).
 
==Gweler hefyd==