Byddin Rhyddid Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu |
|||
Llinell 5:
Sefydlwyd y fyddin yn [[Llanbedr Pont Steffan]] yn [[1963]] gan [[William Julian Cayo-Evans]], gyda'r bwriad o gymeryd lle [[Mudiad Amddiffyn Cymru]]. Ei nod oedd gweriniaeth Gymreig annibynnol. Daeth logo'r fyddin, a adwaenid fel yr Eryr Wen, yn olygfa gyffredin trwy Gymru, wedi ei beintio ar waliau a phontydd, yn enwedig yn y cyfnod wedi boddi pentref [[Capel Celyn]] a chyn [[Arwisgiad Tywysog Cymru]] yn 1969.
Bu'r fyddin yn hyfforddi yng nghefn gwlad Cymru, a'i harweinwyr yn rhoi cyfweliadau i newyddiadurwyr. Ymddengys iddynt fod yn gyfrifol am nifer o ffrwydradau.
Ym [[1969]], rhoddwyd chwech o arweinyddion y fyddin, [[Julian Cayo-Evans]], [[Dennis Coslett]], [[William Vernon Davies]], [[Vivian George Davies]] a [[David Bonnar Thomas]]<ref>''Charges against alleged Free Wales Army members''.Times [London, England] 7 Mar. 1969: 4. ''The Times Digital Archive''. Adalwyd 28 Mawrth, 2016. [http://find.galegroup.com/dvnw/infomark.do?&source=gale&prodId=DVNW&userGroupName=nlw_ttda&tabID=T003&docPage=article&docId=CS67334247&type=multipage&contentSet=LTO&version=1.0]</ref> ar brawf gan yr awdurdodau Prydeinig, ac wedi'r achos llys hiraf oedd wedi ei gynnal yng Nghymru hyd hynny, fe'u dedfrydwyd i dymhorau hir o garchar.
==Llyfryddiaeth==
|