Cymdeithas Adeiladu'r Principality: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dr. Blofeld (sgwrs | cyfraniadau)
rm link
Dr. Blofeld (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 19:
== Hanes ==
[[Delwedd:Principality_Buildings,_Cardiff_geograph-3708172-by-Jaggery.jpg|left|thumb|Adeiladau'r Principality yn Heol y Frenhines, Caerdydd, pencadlys Cymdeithas Adeiladu'r Principality]]
Fe'i sefydlwyd yng Nghaerdydd yn 1860 gan William Sanders fel cymdeithas adeiladu gydfuddiannol.<ref>[http://www.angelfire.com/ga/BobSanders/CDFF3.html A CARDIFF & VALE OF GLAMORGAN CHRONOLOGY], Angelfire.com</ref> Yn 1914 adeiladwyd Adeiladau'r Principality fel pencadlys y gymdeithas ac mae'r brif swyddfa yno hyd heddiw. Prynwyd nifer o gymdeithasau adeiladu lleol gan y Principality yn y 1970au a fe'i cyfunwyd i'r gymdeithas. Yn 1987 prynodd y Principality asiantau tai Parkhurst a Peter Alan estate agents, ac yn 2014 fe werthwyd yr asiantau cyfunedig i Connells Group am £16.4m.<ref>{{Nodyn:Cite web|title=Peter Alan Poised for Growth Under new owner|url=http://www.insidermedia.com/insider/wales/122115-/|publisher=Newsco Insider Limited|accessdate=27 September 2015|date=28 August 2014}}</ref> Yn 1989 prynwyd safle drws nesaf i'r pencadlys yn Heol y Brodyr Llwydion ar gyfer swyddfeydd newydd wrth i'r cwmni ehangu ac fe agorwyd Tŷ'r Principality yn 1992.<ref>{{Nodyn:Cite web|title=Mergers and Name Changes|url=http://www.bsa.org.uk/docs/consumerpdfs/yearbooknamechangepart1.pdf|work=Extract from BSA Yearbook 2013/14|publisher=Building Societies Association|accessdate=2 December 2013|date=4 October 2013}}</ref><ref>{{Nodyn:Cite web|url=http://www.principality.co.uk/about-us/your-principality/our-history|title=Our History|website=www.principality.co.uk|access-date=2016-03-27}}</ref>
 
Prynodd Principality y cwmni Loan Link Limited yn 2004. Rhoddodd hyn y cyfle i lansio'r is-gwmni Nemo Personal Finance Ltd yn 2005. Yn 2013 prynwyd Mead Property Services (yn gwasanaethu Swydd Buckingham, Swydd Berkshire a Swydd Rhydychen) a Thomas George (yn gwasanaethu Caerdydd a de Cymru).