Hofrennydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B s
Amrodor
Llinell 1:
[[Delwedd:22 Squadron SH-3 Sea King RAF Valley.jpg|bawd|Hofrennydd o RAF Valley, Sir Fôn yn paratoi i lanio.]]
[[Delwedd:20080406165033!V-22 Osprey refueling edit1.jpg|bawd|chwith|Llenwi gyda thanwydd cyn mynd allan i'r nos yn Irac]]
Peiriant i deithio drwy'r awyr ydy '''hofrennydd''', a gaiff ei yrru gyda chymorth llafnau metel sy'n troi uwch ei ben; ceir llafnau i reoli'r cyfeiriad hefyd - rhai llai - ar gynffon yr hofrennydd. Yn wahanol i'r [[awyren]] gyffredin, gall godi a glanio'n fertig sy'n ei wneud yn arbennig o ddefnyddiol i'w ddefnyddio mewn llefydd anial, heb [[llwybr glanio|lwybr glanio]]. Gelwir peiriant sydd a 3 neu ragor o lafnau yn '[[amrodor]]'.
 
Datblygwyd y dechnoleg i'w lunio yn ystod hanner cynta'r 20fed ganrif. Yr hofrennydd masnachol cyntaf oedd y [[Focke-Wulf|Focke-Wulf Fw 61]] a hynny yn 1936. Bellach, defnyddir yr hofrennydd i wahanol bwrpas gan gynnwys: gan [[heddlu|yr heddlu]], y fyddin, pleser ac fel [[ambiwlans|ambiwlans awyr]]. Cânt eu defnyddio hefyd i [[RAF y Fali|arbed bywydau]] a gan [[ffermwyr]] i chwistrellu cemegolion ar gnydau neu i gario teithwyr. Maent yn arbennig o ddefnyddiol fel peiriannau lladd, fel y gwelwyd yn [[Rhyfel Fietnam]].