Dafydd Cadwaladr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
adio gwybodaeth
adio llyfryddiaeth
Llinell 1:
 
Roedd [http://yba.llgc.org.uk/cy/c-CADW-DAF-1752.html Dafydd Cadwaladr] yn gynghorwr gyda'r Methodisitiaid Calfinaidd (M.C.) ac yn fab i Cadwaladr Dafydd a'i wraig Catrin o Erw Dinmael, Llangwm, ym Meirionnydd/Dinbych. Bu ei rieni yn dilyn anterliwtiau a chymhorthau gwau traddodiadol, a thra'n ifanc dysgodd Dafydd o'r ''Llyfr Gweddi'', ac i rigymu a darllen fel yr arferai adrodd y ''Bardd Cwsg'' a ''Thaith y Pererin'' yn y cymhorthau. AethGweithiodd fel gwas ffarm sawl gwaith ac yna yn 1771 aeth i weithioweini at y pregethwr William Evans o Fedw Arian ger y Bala. Priododd Judith Humphreys yn 1777 a symydasant i fyw i dyddyn Penrhiw, sef eiddo y Parch. Simon Lloyd. Ganwyd naw plentyn iddynt, a daeth dwy o'r merched yn adnabyddus yn eu dydd, sef Elizabeth Davis, y nyrs 'Betsy Cadwaladyr' (Balaclava), a Bridget a fu'n gweini gyda'r Argwyddes Llanofer yn Llundain ac yn Llanofer. Dechreuodd Dafydd bregethu tua 1780 a chan y medrai'r Beibl ar sawldafod-leferydd, ffarmdywedasai un o'i ferched mai dan wau (h.y. 'yn gyflym iawn') y paratoai ei bregethau. Arferai gerdded pellteroedd maith i gyhoeddi'r efengyl ar hyd a lled Cymru, ac fel llawer o bregethwyr Methodistaidd eraill ei ddydd, roedd yn gyfaill mawr i Thomas Charles. Dafydd Cadwaladr a ganodd farwnadau i Mr. a Mrs. Charles, a bu farw yntau ar 9 Gorffennaf 1834, a'i gladdu yn Llanycil.
 
== Llyfryddiaeth ==
Cadwaladr. Dafydd (1815) ; ''Ehediadau y Meddwl''. Bala.
 
Di-enw. (1836) ; ''Ychydig gofnodau am fywyd a marwolaeth Dafydd Cadwaladr, yr hwn a fu farw Gorphenaf 9, 1834, wedi bod yn bregethwr llafurus ym mysg y Trefnyddion Calfinaidd 52 mlynedd''. , Bala, 1836.
 
 
CADWALADR , DAFYDD ( 1752 - 1834 ), cynghorwr gyda'r M.C. Ail fab Cadwaladr a Chatrin Dafydd o Erw Ddinmael , Llangwm , teulu a fu'n byw ar y tyddyn hwnnw am genedlaethau ac a oedd yn nodweddiadol o'r fro — yn dilyn anterliwtiau a chymhorthau gwau . Rhigymai Dafydd yntau pan yn llanc; ond ni ddysgodd ddarllen ond trwy graffu ar y llythrennau ar gefnau'r defaid a phigo ei ffordd wedyn drwy'r Llyfr Gweddi. Daeth yn ddarllenwr mawr, a chan fod ganddo gof hynod gryf, adroddai'r Bardd Cwsc a Thaith y Pererin yn y cymhorthau. Bu'n hogyn ar amryw ffermydd ; tua 1771 aeth i weini at y pregethwr William Evans yn y Fedw Arian ( y Bala ), a oedd eisoes wedi denu ei fryd at Fethodistiaeth .
 
Tua 1777 priodwyd ef a Judith Humphreys (neu ‘ Erasmus ’ ; bu hi f. tua 1795-6 ), a chymerth dyddyn Penrhiw gan y Parch. Simon Lloyd . O'i naw plentyn bu farw'r pedwar mab o'i flaen; dwy o'i ferched oedd Elizabeth Davis , ‘ Balaclava ’ , a Bridget ( 1795? - 1878 ), a fu'n gweini gyda'r Arglwyddes Llanofer yn Llundain ac yn Llanofer , ac a gladdwyd yng ‘ Nghapel Ed ’ gerllaw Llanofer ( Cylch. Cymd. Hanes M.C. , Mehefin 1918 ).
 
Tua 1780 dechreuodd bregethu . Medrai'r Beibl ar dafod-leferydd; dywed ei ferch mai dan wau (‘yn gyflym iawn’) y gwnâi ei bregethau; a chan ei fod yn gerddwr diflino (hyd yn oed i Lundain ), daeth yn bregethwr a hoffid led-led Cymru . Yr oedd yn gyfaill mawr i Thomas Charles , a chanodd farwnadau i Mr. a Mrs. Charles ( Ehediadau y Meddwl , Bala , 1815 ). Bu f. 9 Gorffennaf 1834 , a'i gladdu yn Llanycil .
 
O'r Ychydig Gofnodau ar … Dafydd Cadwaladr , dienw, a gyhoeddwyd yn y Bala yn 1836 , y tardd bron bopeth a sgrifennwyd ar Ddafydd Cadwaladr ; ceir hefyd ambell gipolwg arno ef ac ar ei gefndir yn hunangofiant ei ferch Elizabeth .
Ffynonellau:
 
Ychydig gofnodau am fywyd a marwolaeth Dafydd Cadwaladr, yr hwn a fu farw Gorphenaf 9, 1834, wedi bod yn bregethwr llafurus ym mysg y Trefnyddion Calfinaidd 52 mlynedd , Bala, 1836.