Fflorens: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Billinghurst (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎Gefeilldrefi: remove redundant template, link FA now managed from Wikidata, removed: {{Cyswllt erthygl ddethol|it}} using AWB
Llinell 2:
 
== Hanes ==
[[Delwedd:Florence italy duomo fc01.jpg|de|bawd|250px|Yr eglwys gadeiriol (''Duomo'') yn '''Fflorens''']]
Dechreuodd hanes Fflorens yn [[59 CC]] pan sefydlodd y [[Ymerodraeth Rufeinig|Rhufeiniaid]] goloni ar gyfer cyn-filwyr o'r enw ''Florentia''. Roedd Fflorens wedi tyfu'n ganolfan fasnach a diwydiant bwysig erbyn y [[12fed ganrif]]. Cawsai'r ddinas ei rhwygo'n aml yn yr ymgyrchoedd rhwng pleidiau'r ''[[Guelfi]]'' a'r ''[[Ghibellini]]'' yn ystod y ddwy ganrif nesaf, ond serch hynny flodeuodd celf a diwylliant. O'r [[15fed ganrif|15fed]] i'r [[18fed ganrif]] bu dan reolaeth teulu'r [[Medici]], a hybai [[celf|gelf]] a [[pensaernïaeth|phensaernïaeth]] yn y ddinas. O ganlyniad mae nifer yn ystyried mai Fflorens yw man geni [[y Dadeni Dysg]]. Yn dilyn cyfnod dan reolaeth [[Awstria]] daeth Fflorens yn rhan o deyrnas newydd yr Eidal yn [[1861]]. Am gyfnod byr (rhwng [[1865]] a [[1871]]) roedd yn brifddinas dros dro teyrnas yr Eidal. Bu i'r ddinas ddioddef cryn dipyn o ddifrod yn [[yr Ail Ryfel Byd]]. Erbyn heddiw mae hi'n ganolfan dwristiaeth bwysig ac yn dal i gyfrannu'n sylweddol i fywyd diwylliannol yr Eidal ac [[Ewrop]].