Yn 2015 daeth deddfau i rym mewn sawl gwlad i reoli amrodyr, ac erbyn Ebrill 2016 roedd un wlad, [[MonacMonaco]] wedi'u gwahodd yn llwyr, ac wedi gosod cyfarpar yn ei le i adnabod ac atal amrodyr. Gosododd gwmni o Gaergrawnt, Aveilant, synhwyryddion radar-holgraffig, sy'n ddigon sensitif i synhwyro aderyn. Mewn llai nag eiliad, mae'r cyfarpar yn jamio'r cysylltiad rhwng yr amrodyr a'r rheolwr, gan ei wneud yn dda i ddim.<ref>Papur newydd: ''The Sunday Times''; 17 Ebrill 2016; Teitl: ''Monaco hires Cambridge techies to down drones''.</ref> Y bwriad yw diogelu awyrennau sy'n codi a glanio yn ogystal â diogelu preifatrwydd ei dinasyddion, gwlad lle ceir llawer o baperatsi.