Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
dileu'r cyfeiriadau oeddynt heb eu rhifo
clirio'r dudalen
 
Llinell 1:
 
== William Parry (m.1585) ==
[http://yba.llgc.org.uk/cy/c-PARR-WIL-1585.html?query=William+Parry&field=name William Parry], cynllwynwr Catholig, a Doethur yn y Gyfraith Wladol (Sifil). (m.1585)
 
Hanai William Parry o Laneurgain, Sir y Fflint, ac yn fab i Henry ap David, mwy na thebyg. Gwasanaethodd yr Arglwydd Uwch Drysorydd [[:en:William_Cecil,_1st_Baron_Burghley|Burghley]] fel ysbïwr ar y
 
Pabyddion, yn rhannol efallai er mwyn dianc rhag ei ofynwyr mewn cyfnod crefyddol cythryblus. Croesodd i'r cyfandir yn 1571, 1579, a 1582. Gydag amser daeth i
 
gydymdeimlo fwyfwy ag achos [[Catholigiaeth]], a rhywsut fe'i cafodd ei hun yn gysylltiedig â chynllwyn gwleidyddol-grefyddol ei natur a'i harweiniodd mor bell â'r [[Yr Eidal|Eidal]].
 
Yno ceisiodd gael trafodaethau gydag ysgrifennydd Brenin y Catholigion yn [[Fenis]]. Cynllwyn i ladd y [[Elisabeth I, brenhines Lloegr|Frenhines Elisabeth]] <ref>A True and Plaine Declaration of the Horrible Treasons practiced by William Parry (1585) published by C. Barker (London)</ref> <ref>A True and Plain Declaration of the Horrible Treasons practised by William Parry, Dr of the Civil Law (1679) published by Green Dragon & Fleetstreet (London)</ref> oedd hwn, sef i'r pwrpas o ddychwelyd ynys
 
[[Prydain Fawr|Prydain]] i'r grefydd Gatholig ac i ymwrthod â'r diwygiadau [[Protestaniaeth|Protestanaidd]]. Daeth yn amlwg fod y cynllwyn 'bradwrus' yma wedi deillio o ganlyniad i'r mesur seneddol yn y
 
[[Tŷ'r Cyffredin (Y Deyrnas Unedig)|Ty Cyffredin]] <ref>The Golden Speech of Queen Elizabeth to her Parliament, 20 November, 1601 (England and Wales. Sovereign 1558-1603: Elizabeth I)</ref> oedd yn condemnio'r Jeswitiaid yn 1584. Wedi cyfnod manwl o groesholi difrifol fodd bynnag, fe'i dyfarnwyd yn euog o frad yn erbyn y Frenhines. Cafodd ei
 
ddienyddio ar 2 Mawrth, 1585 <ref>The Last Words of William Parry a Lawyer who Suffered for Endeavouring to depose the Queen's Highness, and bring in Queen Mary and her young son James (1700?) [ ysgrifennwyd,1584 ] argraffwyd yn Llundain</ref> (er gwaethaf ei erfyniadau taer i'w Mawrhydi yn datgan nad oedd unrhyw fwriad ganddo heblaw gwneuthur Ewyllys Duw a'r [[Pab]]). Erys amheuaeth
 
ynglyn ag i ba raddau y bu'n euog o'r drygioni hwn, ac am sut y daeth i wneud penderfyniad a'i galluogai i weithredu y fath gynllwyn ysgeler. Rhoddwyd gweddi a mawl
 
i Dduw yn y senedd yn fuan wedyn, i roi clo fel pe tae, ar y digwyddiad bach rhyfedd hwn a ddaeth i'r golwg yn sgil argyfwng gwladol, a hynny yn hollol ddirybudd fe ymddengys.
 
== Cyfeiriadau ==