Pervez Musharraf: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB
B trefn
Llinell 1:
[[Delwedd:Pervez Musharraf.jpg|200px|bawd|Y Cadfridog Pervez Musharraf]]
'''Pervez Musharraf''' ([[Urdu]]: پرويز مشرف) (ganed [[11 Awst]], [[1943]]) yw cyn-arlywydd [[Pacistan]], a chyn Pennaeth Staff [[Byddin Pacistan]]. Daeth i rym yn [[1999]] trwy drefnu a gweithredu ''[[coup d'état]]'' milwrol ac mae wedi rhoi heibio cyfansoddiad Pacistan ddwywaith; ers hynny, mae wedi cael ei gefnogi'n ymarferol (trwy gymorth milwrol ac ariannol) gan wledydd [[y Gorllewin]] gan gynnwys yr [[Unol Daleithiau]]. Cipiodd Musharraf rym ar [[12 Hydref]], [[1999]], gan droi allan [[Nawaz Sharif]], [[Prif Weinidog]] etholedig y wlad, cafodd wared ar y cyrff deddfwriaethol cenedlaethol a thaleithiol, cymerodd iddo'i hun y teitl o Brif Weithredwr a daeth felly'n arweinydd ''de facto'' [[llywodraeth Pacistan]], y pedwerydd pennaeth milwrol yn hanes y wlad i wneud hynny. Yn ddiweddarach, yn [[2001]], apwyntiodd Musharraf ei hun i swydd [[Arlywydd Pacistan]].
 
Ar 3 Tachwedd, 2007, ddyddiau yn unig cyn i Brif Lys Pacistan benderfynu ei barn ar ddeiseb a heriodd ddilysrwydd cyfansoddiadol ei ail-ethol yn arlywydd yn etholaethau dadleuol Hydref 2007, rhoddodd Musharraf heibio'r cyfansoddiad eto, arestiodd sawl barnwr a chyfreithiwr o'r Prif Lys, yn cynnwys y Prif Farnwr Iftikhar Muhammad Chaudhry, gorchmynodd arestio gwrthwynebwyr gwleidyddol ac ymgyrchwyr dros hawliau dynol, a chaeodd bob sianel teledu preifat. Cyhoeddodd stâd o argyfwng yn y wlad. Ymddiswyddodd Musharraf fel arlywydd ar [[18 Awst]] [[2008]].
 
{{Rheoli awdurdod}}
{{DEFAULTSORT:Musharraf, Pervez}}
 
[[Categori:Arlywyddion Pacistan]]
[[Categori:Genedigaethau 1943]]