Cwch camlas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Osian (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Gall hwn fod yn newid sydyn a llym i dudalen poblogaidd; byddwch yn siwr eich bod chi'n deall y canlyniadau cyn symud y dudalen.
[[Delwedd:Narrowboats-at-tardebigge.jpeg|400px|thumb|Cychod camlas yn Lloegr]]
Math o [[cwch|gwch]] a ddefnyddir ym Mhrydain i hwylio ar [[camlas|gamlesi]] cul yw '''cwch camlas'''. Fel arfer, dydy hi ddim ond rhyw 2.8m o led (6 troedfedd 10 modfedd), ond gall fod hyd at 22m o hyd (72 troeddfed). Mae rhai [[loc]]iau yn methu derbyn cychod hirach na 18m (60 troedfedd), neu hyd yn oed 12m (40 troeddfed).
 
==Hanes==
 
Yn ystod y [[Chwyldro Diwydiannol]] defnyddiwyd cychod camlas yn bennaf i gludo nwyddau. Roedd y rhai hynaf wedi eu gwneud o bren ac roedd [[ceffyl]]au yn eu tynnu. Daeth camlesi i fod yn llai pwysig ers y [[1830au]] oherwydd datblygiad y [[rheilffordd|rheilffyrdd]], a daeth perchnogion tlawd y cychod i fyw arnynt. Cafodd llawer o'r cychod hyn eu haddurno'n lliwgar, fel arfer gyda lluniau cestyll a rhosod.
 
Heddiw, defnyddir cychod camlas i fyw arnynt neu i dreulio gwyliau arnynt; y dyddiau hyn fe'u gyrrir gan beiriant diesel. Caiff rhai cychod eu haddurno yr un fath â'r rheini a fodolai fwy na chanrif yn ôl.
 
Ar hyn o bryd mae tua 48,000 o gychod trwyddedig ar ddyfrffyrdd Prydain ([[Dyfrffyrdd Prydain]], 2004), y mwyafrif ohonynt yn gychod camlas, a thua 5,000 heb eu trwyddeddu ar angorfeydd preifat.
 
[[en:Narrowboat]]