Crëyr bach: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
delwedd Cymreig!
→‎top: tacluso a Blwch tacson using AWB
Llinell 14:
| awdurdod_deuenwol = ([[Carolus Linnaeus|Linnaeus]], 1766)
}}
[[File: Aigrette garzette MHNT.jpg|thumb |'' Egretta garzetta '']]
 
Mae'r '''Crëyr Bach''' (''Egretta garzetta'') yn aelod cymharol fychan o deulu'r [[crëyr|creyrod]].
 
Mae'n aderyn llawr llai na'r Crëyr Glas, tua 55-65 55–65 cm o hyd a 88-106 88–106 cm ar draws yr adenydd. Mae'r plu i gyd yn wyn. Gellir ei wahaniaethu oddi wrth greyrod gwyn eraill trwy fod ganddo goesau du a thraed melyn, a pig du. Yn y tymor nythu mae dwy bluen hir yn tyfu ar y gwegil ac mae'r croen rhwng y pig a'r llygaid yn troi'n goch.
 
Mae'n nythu mewn gwlybdiroedd mewn rhannau gweddol gynnes o [[Ewrop]], [[Asia]], [[Affrica]] ac [[Awstralia]]. Nid yw'n [[aderyn mudol]] yn y gwledydd cynhesaf, ond lle mae'r gaeafau'n oer mae'n symud tua'r de a'r gorllewin. Gallant hefyd symud tua'r gogledd yn niwedd yr haf ar ôl nythu.
[[Delwedd:Parlwr DuLB88.JPG|bawd|chwith|Crëyr Bach Copog yn y Parlwr Du; 2013.]]
 
Ar un adeg yr oedd y Crëyr Bach mewn cryn berygl oherwydd ei fod yn cael ei hela er mwyn defnyddio'r plu hir mewn hetiau merched. Erbyn hyn mae'r niferoedd wedi cynyddu'n sylweddol iawn ac mae ei ddosbarthiad wedi lledaenu. Mae wedi dechrau nythu ar [[Ynysoedd Prydain]] a hefyd yr ochr draw i [[Môr Iwerydd|Fôr Iwerydd]] yn [[Barbados]] ac efallai ar nifer o ynysoedd eraill [[India'r Gorllewin]].
 
Fel rheol mae'r Crëyr Bach yn nythu gyda'i gilydd mewn coed, yn aml gyda creyrod eraill. Pysgod bychain ac ymlusgiaid yw ei fwyd yn bennaf, ac mae'n eu dal trwy gerdded yn llechwraidd ger y dŵr a'u trywanu â'i big.
 
Hyd ar ddiwedd y 1990au ystyrid y Crëyr Bach yn aderyn prin yng [[Cymru|Nghymru]], ond erbyn hyn gellir gweld niferoedd sylweddol ohono, yn enwedig ddiwedd yr haf. Weithiau gellir gweld dros 200 o adar yng ngwarchodfa [[Penclacwydd]] ger [[Llanelli]] ac yn y gogledd dros gant yn [[Aber Ogwen]] ger [[Bangor]]. Mae ychydig barau wedi dechrau nythu yng Nghymru.