Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Dolenni allanol: man gywiriadau using AWB
→‎top: tacluso a Blwch tacson using AWB
Llinell 8:
Cymdeithas er gwarchod [[adar]] a'u cynefinoedd yw '''Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar'''. Cyfeirir ati fel rheol fel yr '''RSPB''', o'i henw [[Saesneg]] ''The Royal Society for the Protection of Birds''.
 
Ffurfiwyd y Gymdeithas yn [[1889]] yn [[Didsbury]], Lloegr. Y symbyliad oedd fod niferoedd yr [[Gwyach Fawr Gopog|Wyach Fawr Gopog]] wedi disgyn i lefel beryglus o isel oherwydd hela, gan fod plu'r rhywogaeth yma yn boblogaidd iawn fel addurn i hetiau merched.
 
Ffurfiwyd y gwarchodfeydd cyntaf yn [[1932]] yn Dungeness ac East Wood, yna crewyd yr enwocaf o'u gwarchodfeydd, [[Minsmere]] ym [[1947]]. Ym [[1948]] daeth [[Ynys Gwales]] yn warchodfa, y gyntaf yng Nghymru. Yn [[1967]] dechreuwyd apêl am £100,000 i brynu tir ar gyfer tair gwarchodfa newydd, gan gynnwys [[RSPB Ynys-hir]] a [[Gwenffrwd]]. Symudasant i'w swyddfeydd presennol yn The Lodge, [[Sandy]] yn [[1961]], ac agorwyd y swyddfa Gymreig gyntaf yn [[1971]].