Gwalch y pysgod: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 2 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q25332 (translate me)
tacluso a Blwch tacson, replaced: {{Taxobox → {{Blwch tacson using AWB
Llinell 1:
{{Blwch tacson
{{Taxobox
| name= Osprey
| status = LC
Llinell 19:
| range_map = Wiki-Pandion haliaetus.png }}
 
[[Aderyn ysglyfaethus]] yn byw yn bennaf ar bysgod yw '''Gwalch y Pysgod''' (enw gwyddonol: ''Pandion haliaetus''). Mae ganddo ddosbarthiad eang iawn trwy'r byd, ac yn un o'r ychydig adar sydd i'w cael ar bob cyfandir heblaw yr Antarctig. Mae'n 60cm60 cm mewn hyd a 180  cm o adain i adain. Brwon ydy rhan uchaf ei gorff a'r rhan isaf yn wyn; mae ymylon ei lygaid yn blu du, a'i esgyll hefyd.
 
[[Aderyn ysglyfaethus]] yn byw yn bennaf ar bysgod yw '''Gwalch y Pysgod''' (enw gwyddonol: ''Pandion haliaetus''). Mae ganddo ddosbarthiad eang iawn trwy'r byd, ac yn un o'r ychydig adar sydd i'w cael ar bob cyfandir heblaw yr Antarctig. Mae'n 60cm mewn hyd a 180 cm o adain i adain. Brwon ydy rhan uchaf ei gorff a'r rhan isaf yn wyn; mae ymylon ei lygaid yn blu du, a'i esgyll hefyd.
 
Ar bysgod y mae Gwalch y Pysgod yn byw, bron yn gyfangwbl, ac mae'n plymio i'r dwr draed ar gyflymder uchel i'w ddal gyda'i grafangau. Mae sbigau bychain ar y traed sy'n ei gynorthwyo i ddal gafael mewn pysgodyn. Yn [[Ewrop]] mae Gwalch y Pysgod yn aderyn mudol, sy'n treulio'r gaeaf yng ngorllewin [[Affrica]].
Llinell 26 ⟶ 25:
Mae'n nythu gerllaw llynnoedd ac afonydd fel rheol, ond ambell dro gerllaw dwr hallt. Ran amlaf mae'r nyth, sy'n gasgliad sylweddol iawn o frigau, mewn coeden, ond gall nythu ar lawr os yw mewn lle diogel, er enghraifft ar ynys fechan ynghanol llyn.
 
Diflannodd yr aderyn ysglyfaethus hwn o wledydd Prydain yn 1916. Fe gafodd Gwalch y Pysgod ei ddifa'n llwyr o'r [[Alban]] yn nechrau'r Ugeinfed Ganrif gan erledigaeth gan ddyn: saethu a chasglu wyau, ond dychwelodd i nythu yno yn y 1950au ac erbyn 2012 roedd yno mwy na 200 o barau.
 
== Yng Nghymru ==
[[Delwedd:Dyfi Osprey Project Hide July 2011.jpg|chwith|bawd|Y Ganolfan Wylio yn Nyffryn Dyfi.]]
Yn [[2004]] nythodd yng Nghymru am y tro cyntaf, hyd y gwyddom, ger [[Llyn Glaslyn]]. Yn [[2005]] magodd pâr gerllaw [[Porthmadog]] ddau gyw a sefydlodd yr [[RSPB]] ganolfan ymwelwyr gerllaw'r nyth. Daeth tua 50,000 o bobl i'w gweld yn ystod yr haf. Mae'n nhw yn dal yno, a bellach, ceir pâr arall yn nythu yng Nghors Dyfi, ble ceir cuddfan i'w gwylio. Man arall da i'w gwylio rhwng Mawrth a Medi yw Canolfan Ymwelwyr yr RSPB ger Pont Croesor, [[Porthmadog]].
 
Mae'r adar sydd yng Nghymru yn fudol ac erbyn mis Medi maent yn gadael am wledydd cynhesach Gorllewin Affrica.
 
==Cyfeiriadau==