Chwiwell: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau) B Bot: Migrating 51 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q26459 (translate me) |
|||
Llinell 16:
Mae'r '''Chwiwell''' (''Anas penelope'') yn un o'r hwyaid mwyaf cyffredin trwy rannau helaeth o'r byd, yn nythu yng ngogledd [[Ewrop]] ac [[Asia]].
Mae'n hwyaden weddol fawr,
Gellir adnabod y ceiliog yn hawdd, gyda chefn ac ochrau llwyd a du o gwmpas y gynffon. Mae'r fron yn binc, y bol yn wyn a'r pen yn frowngoch gyda llinell felyn ar draws y corun. Wrth hedfan mae'n dangos darn gwyn mawr ar yr adain sy'n nodweddiadol. Gall fod yn anoddach adnabod yr iâr, sy'n frown golau o ran lliw ac yn weddol debyg i ieir rhai o'r hwyaid eraill, ond mae'r siâp yn wahanol.
Mewn corsydd neu o gwmpas llynnoedd mae'r Chwiwell yn bwydo. Mae'n hwy parod i fwydo ar y lan na'r rhan fwyaf o'r hwyaid eraill, a gellir eu gweld yn pori'r glaswellt yn ogystal a chwilio am blanhigion y dŵr. Daw'r enw "Chwiwell" o alwad y ceiliog, sy'n chwiban glir, nodweddiadol o'r rhywogaeth.
Anaml y mae'r Chwiwell yn nythu yng [[Cymru|Nghymru]] ond mae niferoedd mawr yn dod i dreulio'r gaeaf yma.
[[Categori:Hwyaid]]
|