Hwyaden lydanbig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 55 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q25940 (translate me)
→‎top: tacluso a Blwch tacson using AWB
Llinell 15:
}}
 
Mae'r '''Hwyaden Lydanbig''', (''Anas clypeata''), yn un o deulu'r [[hwyaden|hwyaid]]. Mae'n nythu trwy rannau helaeth o [[Ewrop]], gorllewin [[Asia]] a gogledd [[America]].
 
Mae'r Hwyaden Lydanbig yn [[aderyn mudol]] sydd fel rheol yn symud tua'r de neu tua'r gorllewin tros y gaeaf. Nid ydynt yn casglu at ei gilydd mewn heidiau mawr yn y gaeaf fel rhai o'r hwyaid eraill, ond ambell dro gellir gweld rhai cannoedd gyda'i gilydd. Mae'n nythu gerllaw corsydd neu lynnoedd ac yn bwydo ar blanhigion yn bennaf, gyda phryfed ac anifeiliad bychain eraill yn y tymor nythu.
[[Delwedd:Northern Shoveler (Female).jpg|200px|chwith|bawd|Iâr]]
Gellir adnabod y ceiliog yn hawdd gyda'i ben gwyrdd, bron wen a lliw browngoch ar yr ochrau a'r bol. Pan mae'n hedfan gellir gweld darn glas golau ar flaen yr adenydd. Mae'r pig yn anarferol o fawr a llydan. Nid yw'r iâr mor hawdd ei hadnabod gan ei bod yn lliw brown golau, yn bur debyg i iâr [[Hwyaden Wyllt]], ond mae'r pig yn llawer mwy.
 
Nifer cymharol fychan o barau o'r Hwyaden Lydanbig sy'n nythu yng [[Cymru|Nghymru]], heblaw ar [[Ynys Môn]] lle mae poblogaeth sylweddol. Gellir gweld niferoedd mwy yn y gaeaf pan mae adar o wledydd eraill yn dod yma i aeafu.