452,433
golygiad
(cat) |
|||
[[file : Tourterelle turque MHNT.jpg|thumb|Ŵy ''Streptopelia decaocto'']]
Mae'r '''Durtur Dorchog''' (''Streptopelia decaocto'') yn aderyn sydd a hanes diddorol iawn. Yn wreiddiol yr oedd i'w gael yn y gwledydd rhwng de-ddwyrain [[Ewrop]] a [[Japan]], ond tua dechrau'r [[ugeinfed ganrif]] dechreuodd wladychu ardaloedd newydd. Erbyn diwedd y 1950au yr oedd wedi cyrraedd [[Prydain]], ac yn fuan wedyn [[Iwerddon]]. Yn [[Sgandinafia]] mae'n nythu ymhell i'r gogledd erbyn hyn.
Ymddengys i'r Durtur Dorchog gyrraedd y [[Bahamas]] trwy ddamwain, ac oddi yno lledaenodd i [[Florida]] ac erbyn hyn i ran helaeth o [[Unol Daleithiau America]]. Un yn ymgartrefu'n hawdd mewn unrhyw leoliad. Nid yw'n [[aderyn mudol]], er y gellir gweld symudiadau weithiau, yn enwedig mewn tywydd oer.
Mae'n nythu mewn coed, yn dodwy dau wy ar y tro. Gall nythu nifer o weithiau mewn blwyddyn. Gellir gweld yr aderyn yma o gwmpas gerddi yn aml iawn, ac mae'n medru bod yn ddôf iawn. Mae'n golomen weddol fychan, gyda phlu llwyd golau, a gwyn ar flaen y gynffon. Daw'r enw o'r hanner coler ddu ar y gwegil.
Yn y gaeaf gall cryn nifer o adar gasglu yn haid, yn enwedig lle mae digonedd o fwyd ar gael.
[[Categori:Colomennod]]
|