Cwtiad aur: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau) B Bot: Migrating 3 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q21148 (translate me) |
|||
Llinell 16:
[[File:Pluvialis apricaria MHNT.jpg|thumb|'' Pluvialis apricaria'']]
Mae'r '''Cwtiad Aur''' ('''''Pluvialis apricaria''''') yn aelod o deulu'r [[rhydyddion]].
Yn y tymor nythu mae'n aderyn hawdd ei adnabod, gyda smotiau aur a du ar y pen a'r cefn a'r fron a'r bol yn ddu. Yn y gaeaf mae'r fron a'r bol yn troi'n wyn ac mae'n haws ei gymysgu gyda'r [[Cwtiad Llwyd]], ond mae'n parhau i ddangos rhywfaint o aur ar y cefn.
[[Delwedd:Pluvialis apricaria2.jpg|bawd|chwith|Cwtiad Aur yn ei blu gaeaf]]
Mae'n nythu ar rostir agored yng ngogledd [[Ewrop]] a gorllewin [[Asia]], gan adeiladu'r nyth ar lawr. Mae'n [[aderyn mudol]], yn symud tua'r de yn y gaeaf cyn belled a de Ewrop a gogledd [[Affrica]].
Yn wahanol i lawer o rydyddion, nid ydynt yn gwthio'r pig i'r mwd i chwilio am fwyd, yn hytrach maent yn cerdded o gwmpas i chwilio am unrhyw pryfed neu anifeiliaid bach sydd i'w gweld ar yr wyneb. Yn y gaeaf gellir eu gweld yn bwydo mewn caeau yn ogystal ag o gwmpas glannau'r môr.
Mae nifer fychan ohonynt yn nythu yng [[Cymru|Nghymru]] ar yr ucheldiroedd, er enghraifft ar [[y Berwyn]], ond mae'r niferoedd wedi gostwng yn y blynyddoedd diwethaf. Yn y gaeaf mae niferoedd llawr mwy yn dod i aeafu yma, a gellir gweld heidiau o filoedd ohonynt mewn ambell fan.
[[Categori:Rhydwyr]]
|