Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Cwtiad Llwyd"

Lleihawyd o 3 beit ,  5 o flynyddoedd yn ôl
→‎top: tacluso a Blwch tacson using AWB
B (Bot: Migrating 38 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q18835 (translate me))
(→‎top: tacluso a Blwch tacson using AWB)
}}
 
Mae'r '''Cwtiad Llwyd''' ('''''Pluvialis squatarola''''') yn aelod o deulu'r [[rhydyddion]].
 
Yn y tymor nythu mae'n aderyn tarawiadol dros ben, gyda smotiau du a gwyn ar y cefn a rhan uchaf yr adenydd a'r wyneb, y fron a'r bol yn ddu. Yn y gaeaf mae'r fron a'r bol yn troi'n wyn ac mae'n haws ei gymysgu gyda'r [[Cwtiad Aur]], ond mae pig y Cwtiad Aur yn llai ac hyd yn oed yn y gaeaf mae rhywfaint o liw aur ar y cefn, sy'n absennol yn y Cwtiad Llwyd. Os oes amheuaeth y peth gorau i'w wneud yw disgwyl i'r aderyn hedfan. Mae gan y Cwtiad Llwyd ddarn du amlwg ar ei gesail tra mae'r Cwtiad Aur yn wyn yma.
[[File:Pluvialis squatarola MHNT.jpg|thumb|''Pluvialis squatarola'']]
 
Mae'n nythu ar rostir agored ar ynysoedd yn yr [[Arctig]] o ogledd [[Canada]] i ogledd-ddwyrain [[Rwsia]]. Adeiledir y nyth ar lawr. Mae'n [[aderyn mudol]], yn symud tua'r de yn y gaeaf cyn belled a de [[Ewrop]] a gogledd [[Affrica]], [[De America]] cyn belled i'r de a'r [[Ariannin]] ac [[Awstralia]].
 
Yn wahanol i lawer o rydyddion, nid ydynt yn gwthio'r pig i'r mwd i chwilio am fwyd, yn hytrach maent yn cerdded o gwmpas i chwilio am unrhyw pryfed neu anifeiliaid bach sydd i'w gweld ar yr wyneb. Maent yn bwydo ar fwd ger glan y môr fel rheol.
 
Nid yw'r Cwtiad Llwyd yn nythu yng [[Cymru|Nghymru]], ond mae cryn nifer yn treulio'r gaeaf yma.
 
[[Categori:Rhydwyr]]
450,625

golygiad