Cwtiad torchog bach: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Cell Danwydd (sgwrs | cyfraniadau)
teipio a phethau ieithyddol
→‎top: tacluso a Blwch tacson using AWB
Llinell 16:
[[File:Charadrius dubius curonicus MHNT.jpg|thumb|'' Charadrius dubius'']]
 
Mae'r '''Cwtiad Torchog Bach''' ('''''Charadrius dubius''''') yn aelod o deulu'r [[rhydyddion]] sy'n nythu trwy'r rhan fwyaf o [[Ewrop]] a gorllewin [[Asia]].
 
Mae ganddo gefn brownllwyd, bol gwyn a bron wen gyda thorch ddu ar ei thraws. Mae ganddo ddu o gwmpas ei lygaid a chap brown, gyda llinell wen rhyngddynt. Gellir gwahaniaethu rhyngddo a'r [[Cwtiad Torchog]], sydd ychydig yn fwy; mae gan y Cwtiad Torchog Bach linell felen yn amgylchynu'r llygad ac llinell wen ar y talcen rhwng y du a'r brown.
 
Yn wahanol i'r Cwtiad Torchog mae fel rheol yn nythu ger dŵr croyw yn hytrach nag ar lan y môr, yn enwedig ar y graean gerllaw llynnoedd ac afonydd. Mae'n [[aderyn mudol]] sy'n treulio'r gaeaf yn [[Affrica]].
 
Mae'r nifer sy'n nythu yng [[Cymru|Nghymru]] yn gymharol fychan, ond mae rhywfaint o gynnydd wedi bod yn y blynyddoedd diwethaf.