Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Cigfran"

Ychwanegwyd 8 beit ,  5 o flynyddoedd yn ôl
→‎top: tacluso a Blwch tacson using AWB
(Caneuon y Gigfran → Crawciau y Gigfran)
(→‎top: tacluso a Blwch tacson using AWB)
[[File:Common Raven (Corvus corax) (W1CDR0001449 BD6).ogg|thumb|Crawciau y Gigfran]]
 
Mae'r '''Gigfran''' yn un o'r aelodau mwyaf o [[Corvidae|deulu'r brain]]. Mae rhwng 60 a 78  cm o hyd a rhwng 120 a 156  cm ar draws yr adenydd. Mae'r plu i gyd yn ddu. Gellir gwahaniaethu'r Gigfran oddi wrth aelodau eraill o deulu'r brain sydd hefyd i gyd yn ddu, megis y [[Brân Dyddyn|Frân Dyddyn]] trwy fod y pig yn arbennig o fawr, fod plu hir ar y gwddf (gweler y llun) a bod plu canol y gynffon yn hirach na'r plu ar yr ochrau, gan roi ffurf diamwnd i'r gynffon. Mae yr alwad hefyd yn wahanol, rhywbeth fel "prrwwnc" neu "cronc".
 
Mae gan y Gigfran ddosbarthiad helaeth iawn mewn nifer o rannau o'r byd, ac yn ymestyn or'r [[Arctic]] i anialwch y [[Sahara]]. Nid yw'r adar ieuanc yn dechrau nythu tan maent tua tair oed. Cyn hynny maent yn ffurfio heidiau gyda Chigfrain eraill. Pan mae'n paru, mae'n paru am oes.
 
Maent yn nythu mewn coed neu ar glogwyni yn y mynyddoedd neu ger y môr. Gallant nythu yn gynnar iawn yn y flwyddyn pan mae'r tywydd yn dal yn oer iawn, er enghraifft mae rhai Cigfrain yn [[Eryri]] ar y nyth erbyn diwedd Chwefror. Gall fwyta amrywiaeth mawr o fwyd ond yn enwedig anifeiliaid wedi marw. Mae'r pig mawr fel cŷn yn eu galluogi i dorri trwy wlan a chroen dafad wedi marw er enghraifft.
450,625

golygiad