Ydfran: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Billinghurst (sgwrs | cyfraniadau)
B remove redundant template, link FA now managed from Wikidata, removed: {{Cyswllt erthygl ddethol|de}} (2) using AWB
→‎top: tacluso a Blwch tacson using AWB
Llinell 14:
| awdurdod_deuenwol = [[Carolus Linnaeus|Linnaeus]], 1758
}}
Mae'r '''Ydfran''' ('''''Corvus frugilegus''''') yn aelod o [[Corvidae|deulu'r brain]]. Mae'n nythu trwy ran helaeth o [[Ewrop]] ac [[Asia]].
 
Mae'r Ydfran yn aros trwy'r flwyddyn lle nad yw'r gaeafau yn rhy oer, er enghraifft yng ngorllewin Ewrop, ond mae'r adar sy'n nythu tua'r gogledd a'r dwyrain yn symud tua'r de yn y gaeaf.
 
Gall fod yn anodd gwahaniaethu rhwng yr Ydfran ac aelodau eraill o deulu'r brain sydd hefyd yn ddu i gyd. Mae'n aderyn tipyn llai na'r [[Cigfran|Gigfran]], 45 - 47  cm o hyd. Mae'r [[Brân Dyddyn|Frân Dyddyn]] yn fwy tebyg i'r Ydfran o ran maint, ond gellir gwahaniaethu'r oedolion gan fod darn moel o groen golau heb blu arno o gwmpas y ffroenau yn yr Ydfran, tra mae'r plu yn dod yr holl ffordd at y pig yn y Frân Dyddyn. Yr adar ieuanc yw'r anoddaf i'w gwahaniaethu, gan fod pig Ydfran ieuanc yr un fath â phig Brân Dyddyn; y gwahaniaeth mwyaf defnyddiol yw fod gan yr Ydfran fwy o "dalcen". Mae'r Ydfran fel rheol yn fwy parod i ffurfio heidiau na'r Frân Dyddyn.
 
Caiff yr Ydfran lawr o'i fwyd mewn caeau, lle mae'n bwyta unrhyw bryfed ac anifeiliaid bychain eraill y gall eu darganfod yn y pridd, ond gall hefyd fwyta grawn, mês ac amrywiaeth o fwydydd eraill. Mae yr adar yma bob amser yn nythu gyda'i gilydd mewn coed uchel, weithiau 50 neu 100 neu fwy o nythod gyda'i gilydd.
 
Mae'r Ydfran yn aderyn cyffredin yng [[Cymru|Nghymru]], er bod ei niferoedd wedi gostwng rhywfaint yn ddiweddar oherwydd newidiadau mewn [[amaethyddiaeth]].