Ysgrech y coed: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
→‎top: tacluso a Blwch tacson using AWB
Llinell 16:
[[File:Garrulus glandarius rufitergum MHNT 232 Weymouth.jpg |thumb|'' Garrulus glandarius '']]
 
Mae '''Ysgrech y Coed''' neu '''Sgrech y Coed''' ('''''Garrulus glandarius''''') yn aelod o [[Corvidae|deulu'r brain]]. Mae'n nythu trwy ran helaeth o [[Ewrop]], [[Asia]] a gogledd-orllewin [[Affrica]].
 
Gellir adnabod yr aderyn yn hawdd, er fod amryw o is-rywogaethau sy'n amrywio cryn dipyn. Mae'r corff yn liw pinc gyda plu glas tarawiadol iawn ar yr adain, ac mae darn gwyn mawr uwchben y gynffon sy'n amlwg iawn pan mae'r aderyn yn hedfan. Mae'r alwad yn nodweddiadol hefyd, ysgrech sy'n rhoi ei enw i'r aderyn. Gall hefyd ddynwared adar eraill.
 
Ceir Ysgrech y Coed mewn coedwigoedd neu lle mae cymysgedd o goed a chaeau. Mae'n bwydo mewn coed ac ar lawr, ac mae mês yn rhan bwysig o'i fwyd. Gall hefyd fwyta pryfed, aeron, wyau a chywion adar eraill, malwod, llygod ac amrywiaeth o bethau eraill. Mae'n nythu mewn coeden ac yn dodwy 4-6 wy.
 
Mae Ysgrech y Coed yn aderyn cyffredin yng [[Cymru|Nghymru]], ac mae ei niferoedd wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf.