Corhedydd y coed: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Billinghurst (sgwrs | cyfraniadau)
B remove redundant template, link FA now managed from Wikidata, removed: {{Cyswllt erthygl ddethol|de}} using AWB
→‎top: tacluso a Blwch tacson using AWB
Llinell 15:
}}
 
Mae '''Corhedydd y Coed''' ('''''Anthus trivialis''''') yn aelod o deulu'r [[Motacillidae]], sy'n cynnwys y siglennod yn ogystal a'r corhedyddion.
 
Mae'n aderyn cyffredin trwy'r rhan fwyaf o [[Ewrop]] a gorllewin a chanol [[Asia]].Mae'n [[aderyn mudol]], sy'n symud i [[Affrica]] a de Asia dros y gaeaf.
 
Fel y rhan fwyaf o'r corhedyddion mae'n aderyn brown ar y cefn a gwyn gyda marciau duon ar y fron a'r bol. Gall fod yn anodd ei wahaniaethu oddi wrth [[Corhedydd y Waun|Gorhedydd y Waun]] sydd fymryn yn llai. Mae gan Gorhedydd y Coed big ychydig yn fwy, llinell welw fwy amlwg uwchben y llygad a bol gwynnach. Pan mae'n canu mae'n haws ei wahaniaethu, gan fod y gân yn gryfach ac yn fwy amrywiol. Mae'n canu o'r awyr, gan godi'n weddol uchel ac yna dod i lawr dan ganu. Adeiledir y nyth ar lawr, ond fel rheol mae'n nythu mewn mannau lle mae ychydig o goed neu lwyni. Pryfed yw'r prif fwyd ond gall fwyta hadau hefyd.