Tingoch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 42 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q26620 (translate me)
→‎top: tacluso a Blwch tacson using AWB
 
Llinell 19:
Mae'n aderyn eithaf cyffredin mewn rhannau o [[Ewrop]] yn yr haf. Mae'n [[aderyn mudol]], yn gaeafu yng [[Gogledd Affrica|Ngogledd Affrica]].
 
Gellir adnabod y ceiliog yn hawdd yn y tymor nythu. Mae'n aderyn lliwgar iawn gyda'r pen a'r cefn yn llwyd tywyll a'r gynffon a'r ochrau yn liw oren-frown. mae'r talcen yn wyn a llinell wen amlwg iawn uwchben y llygad. Nid yw'r iâr mor lliwgar gyda'r rhan fwyaf o'r plu yn frown, ond mae hithau hefyd yn dangos y lliw goch ar y gynffon a roes ei enw i'r aderyn. Mae tua 14  cm o hyd, tua'r un faint a [[Robin Goch]].
 
Mae'r ceiliog yn cyrraedd i nythu yn Ebrill, ychydig o flaen yr iar. Ceir yr aderyn yma mewn coedydd, lle mae'n nythu mewn twll mewn coeden neu wal gerrig. Mae hefyd yn barod i ddefnyddio blychau nythu, fel yn y llun. Bydd yr iâr yn dodwy pump neu chwech o wyau glas golau.