Trochydd mawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 41 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q190342 (translate me)
→‎top: tacluso a Blwch tacson using AWB
Llinell 14:
| awdurdod_deuenwol = ([[Morten Thrane Brünnich|Brünnich]], 1764)
}}
Mae'r '''Trochydd Mawr''' ('''''Gavia immer''''') yn un o aelodau mwyaf teulu'r [[Trochydd|Trochwyr]], tua 73-88 73–88 cm o hyd a 122-148 122–148 cm ar draws yr adenydd ac yn pwyso rhwng 2.7 a 6.3  kg .
 
Mae'n nythu ar draws [[Canada]] a rhannau gogleddol yr [[Unol Daleithiau America|Unol Daleithiau]] ac yng [[Gwlad yr Iâ|Ngwlad yr Iâ]]. Mae'n nythu yn agor i ddŵr, ar lynnoedd fel rheol ac yn dodwy dau wy. Yn y gaeaf mae'n symud tua'r de ac mae'n weddol gyffredin ar y môr ger glannau gogledd-orllewin Ewrop.
 
Yn y tymor nythu mae'n aderyn hawdd ei adnabod, gyda pen du, bol gwyn a marciau du a gwyn ar y cefn. Yn y gaeaf mae llai o ddu a mwy o wyn ar y pen a'r gwddf. Pysgod yw ei brif fwyd, ac maent yn cael eu dal trwy blymio i'r dŵr, weithiau hyd at ddyfnder o 200 troedfedd. Yn y tymor nythu mae gan yr aderyn yma alwad nodweddiadol iawn.
 
Mae'r aderyn yma yn weddol gyffredin o gwmpas glannau môr [[Cymru]] yn y gaeaf. Y lle gorau i'w gweld yw o gwmpas [[Aberdesach]] lle gellir gweld hyd at 30 ohonynt ambell dro.