Gwyach fawr gopog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 55 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q25422 (translate me)
→‎top: tacluso a Blwch tacson using AWB
Llinell 15:
}}
 
Mae'r '''Wyach Fawr Gopog''', ''Podiceps cristatus'', yn aelod o deulu'r [[Podicipedidae]], y gwyachod.
 
Mae'n un o'r gwyachod mwyaf cyffredin, ac yn nythu ar draws [[Ewrop]] ac [[Asia]] yn unrhyw le lle mae llynyoedd gyda thipyn o dyfiant arnynt. Yn y rhannau oeraf mae'n symud tua'r de neu'r gorllewin yn y gaeaf, ond fel arall nid yw'n [[aderyn mudol]]. Mae'n casglu ar lynnoedd mawr neu ar rannau cysgodol o'r arfordir yn aml yn y gaeaf.
 
Mae tua 46-51 46–51 cm o hyd, a 59-73 59–73 cm ar draws yr adenydd. Pysgod bach yw ei fwyd fel rheol, ac mae'n medru nofio o dan y dŵr i'w dal. Oherwydd bod y coesau wedi eu gosod ymhell yn ôl ar y corff, ni all gerdded yn hawdd ar y tir.
 
Yn y tymor nythu, gellir gweld yr arddangosfa baru, lle mae'r ceiliog a'r iâr yn wynebu'i gilydd ac yn gwneud ystumiau gyda'u gyddfau, yn hanner codi o'r dŵr ac weithiau'n cynnig darn o blanhigyn i'w gilydd. Yn nes ymlaen, gellir gweld cyw, neu ddau gyw, yn cael eu cario ar gefn un o'r rhieni wrth iddynt nofio ar wyneb y dŵr.