Panda Coch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Billinghurst (sgwrs | cyfraniadau)
B remove redundant template, link FA now managed from Wikidata, removed: {{Link FA|pt}} using AWB
→‎top: tacluso a Blwch tacson using AWB
Llinell 18:
[[Mamal]], herbiforaidd yn bennaf, sydd wedi arbenigo i fwyta [[bambŵ]] ac sydd i'w cael ym mynyddoedd [[Asia]] yw'r '''Panda Coch''' neu'r '''Panda Lleiaf''' ([[Lladin]]: ''Ailurus fulgens'' "cath ddisglair"). Mae'n rhywfaint mwy ei faint na [[cath]] ddomestig (hyd: 40 – 60 cm; pwysau: 3 – 6 kg). Cynefin naturiol y Panda Coch yw'r [[Himalaya]] yn [[Bhutan]], [[Tibet]], de [[China]], [[India]], [[Nepal]], a hefyd yn [[Laos]] a [[Myanmar|Bwrma]]. Y Panda Coch yw anifail arwyddlunol talaith Indiaidd [[Sikkim]] a masgot gwyliau ardal [[Darjeeling]]. Amcangyfrifir fod llai na 2,500 o anifeiliaid hŷn yn byw yn y gwyllt erbyn hyn ac mae eu nifer dan fygythiad yn parhaol oherwydd araf golli eu cynefin naturiol.
 
Un o gadarnleoedd olaf y Panda Coch yw gogledd [[Sikkim]] lle ceir poblogaethau yn y mynyddoedd, dan lefel yr eira, e.e. yn ardal bwlch [[Nathu La]] a [[Llyn Tsomgo]].
 
Maent yn hoff o fyw mewn coedwigoedd yn y mynyddoedd, rhwng 1,800-4,800 m neu 5000-15,700 troedfedd, lle ceir digon o lwyni [[rhododendron]] a bambŵ. Ar achlysur maent yn bwyta cig hefyd.