Buwch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Rotvieh.jpg
→‎Gofyn tarw ac ymadroddion eraill: tacluso a Blwch tacson using AWB
Llinell 27:
==Cymru==
===Gofyn tarw ac ymadroddion eraill===
Drwy Ogledd Cymru, hyd at Machynlleth, a ffin afon [[Dyfi]], 'gofyn tarw' yw'r ymadrodd mwyaf cyffredin a cheir ymadrodd ddigon tebyg ym [[Morgannwg]]: 'mofyn tarw'. Yng [[Ceredigion|Ngheredigion]] dywedir fod y fuwch yn 'wasod'.<ref> Daw'r term yma o 'gosod', mae'n debyg hy gosodir y tarw ar gefn y fuwch sydd mewn gwres.[http://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html Geiriadur Prifysgol Cymru;] adalwyd Medi 2015</ref> Sonia [[Cyfraith Hywel|Cyfraith Hywel Dda]] ([[14eg ganrif]]) am ''"weithred tarw gra geisso gwartheg gwasawt o galan Mei hyd galan gaeaf."'' Mae dwy ardal ar wahân yn defnyddio'r un term, 'eisiau tarw', sef yr hen [[Sir Fflint]] a chanol [[Powys]].
 
Ym Morgannwg hefyd arferid defnyddio: 'yn erlid' ac 'yn ysu'.<ref>Fferm a Thyddyn; golygydd Twm Elias; Rhif 54, 2014.</ref>