Edward Tegla Davies: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
dyddiadau
Llinell 1:
[[Delwedd:Tegla_01.JPG|200px|bawd|Edward Tegla Davies]]
[[Llenyddiaeth Gymraeg|Llenor yn yr iaith Gymraeg]], a anwyd yn [[Llandegla-yn-Iâl]] yn yr hen [[Sir Ddinbych]], yn fab i chwarelwr ([[1880]] - [[9 Hydref]], [[1967]]) oedd '''Edward Tegla Davies'''. Fel ''Tegla'' roedd yn cael ei adnabod gan bawb.
 
== Bywyd ==
Magwyd Tegla yn ei bentref genedigol ac yno y cafodd ei addysg gynnar. Cafodd cymdeithas Gymraeg glos a natur ddeniadol ei gynefin effaith amlwg ar ei waith llenyddol a'i agwedd at fywyd yn gyffredinol. Aeth i [[Coleg Didsbury|Goleg Didsbury]], [[Manceinion]] ar ôl cyfnod o 4 mlynedd yn ddisgybl-athro a 3 fel athro cynorthwyol yn Ysgol [[Bwlchgwyn]], ei hen ysgol, a gwasanaethodd fel gweinidog [[YEglwys Fethodistaidd WesleiaidCymru|Wesleaidd]] am weddill ei oes. Crwydrodd o gylchdaith i gylchdaith yn ystod ei weinidogaeth, fel oedd arferol i weinidogion Wesleiaidd, ac roedd yn [[Pregethwyr|bregethwr]] dylanwadol. Roedd yn ysgrifennydd cyson i'r [[Y Wasg Gymraeg|wasg Gymraeg]] ac yn olygydd ar ''[[Y Winllan]]'' ([[1920]]-[[1928]]), cylchgrawn y Wesleaid, ac ''[[Yr Efrydydd]]'' ([[1931]]-[[1935]]). Golygodd ''[[Cyfres Pobun|Gyfres Pobun]]'' am gyfnod yn ogystal. Roedd yn adnabod nifer o lenorion eraill yng Nghymru ac yn gyfaill agos i [[Thomas Gwynn Jones|T. Gwynn Jones]] ac [[Ifor Williams]].
 
== Gwaith Llenyddol ==
Ysgrifenodd ar gyfer [[Llenorion Plant Cymru|plant]] ac oedolion fel ei gilydd ac mae ei waith yn cynnwys [[Y Nofel Gymraeg|nofelau]], sawl cyfrol o [[Y Stori Fer yn y Gymraeg|straeon byrion]], [[Yr Ysgrif Gymraeg|ysgrifau]] a [[hunangofiant]]. Mae ei arddull yn rhwydd ac agos-atoch ac mae ei gydymdeimlad cynhenid â phlant a [[byd natur]] yn elfen amlwg yn ei waith.
 
===Llyfrau i blant yn bennaf===