Kraftwerk: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Huw P (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 35:
Ym 1970 daeth Ralf Hütter a Florian Schneider-Esleben at ei gilydd wrth astudio cerddoriaeth glasurol yn Conservatoire Dusseldorf. Ffufiwyd ''Kling-Klang Studio'' ganddynt, eu recordiaiad cyntaf oedd ''Tone Float'' gyda grŵp o'r enw Organisation.
 
Roedd grwpiau Almaenig y cyfnod yn chwilio am sut orau i ddatblygu ei steil eu hun. Nid oeddent am gopïo grwpiau Eingl-Americaniad neu gerddoriaeth Affro-Americaniad gan deimlo nad oeddent yn dod o'r un cefndir ac nad oedd rhythmau Soul neu Funk yn dod yn naturiol iddynt. Nid oeddent chwaith yn gallu troi am ysbrydoliaeth i ddiwylliant na thraddodiadau'r Almaen am iddynt fod a chywilydd am [[Natsïaeth]]. Roedd llawer o bobl ifanc yr Almaen yn credu roeddent ar ddechrau ''Stunde Null'' (blwyddyn dim) ac rhaid iddynt greu diwylliant newydd sbon gan edrych tua'r dyfodol gydaa'r tu allan. Dechreuodd nifer o grwpiau arbrofol yr Almaen ymddiddori yn ffuglen-wyddonol ''(Science Ficiion)'' a enwyd eu steil o gerddoriaeth ''Kosmische musik'' (cerddoriaeth cosmig).
 
Cafodd y dôn newydd o grwpiau Almaenig ''Kosmische musik'' eu diystyru gan wasg Lloegr gan eu galw'n sarhaus 'Krautrock'.<ref>http://www.progarchives.com/subgenre.asp?style=17</ref><ref>http://www.ft.com/cms/s/2/5952839c-1660-11e4-8210-00144feabdc0.html#axzz472C21Ird</ref><ref>https://en.wikipedia.org/wiki/Stunde_Null</ref>