Finnbhennach: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q3525267 (translate me)
→‎top: tacluso a Blwch tacson using AWB
 
Llinell 3:
Ceir hanes geni Finnbhennach yn y chwedl ''[[De chophur in da muccida]]'', hanes dau [[meichiad|feichiad]] (bugail moch) brenhinoedd Tylwyth Teg taleithiau [[Connacht]] a [[Munster]]. Mewn ymryson i brofi eu doniau [[dewin]]ol, â'r ddau feichiad drwy gyfres o rithiadau, gan eu newid eu hunain yn rhith [[aderyn|adar]], [[pysgodyn|pysgod]], [[carw|ceirw]], rhyfelwyr, ysbrydion, [[draig|dreigiau]] ac yna yn [[neidr|nadroedd]] dŵr. Caent eu llyncu yn rhith y nadroedd hynny gan ddwy fuwch sy'n ymfeichiogi ac yn rhoi genedigaeth i ddau lo sy'n tyfu i fod yn Finnbhennach a Donn Cuailgne.
 
Un diwrnod mae [[Medb]], brenhines Connacht, a'i gŵr [[Ailill mac Mágach|Ailill]] yn cymharu eu cyfoeth. Maent bron yn gyfartal, ond mae Ailill yn berchen ar y tarw Finnbhennach. Ar un adeg roedd y tarw yn perthyn i Medb, ond gan ei fod yn anfodlon cael gwraig yn berchennog arno, crwydrodd i ffwrdd ac ymuno â buches Ailill. I geisio dod yn gyfartal â'i gŵr mae Medb yn codi byddin i ddwyn y tarw enwog [[Donn Cuailnge]] o Cúailnge (Cooley) yn Wlster.
 
Mae melltith ar wŷr Wlster, a'r unig un sydd ar gael i amddiffyn Wlster yw'r arwr dwy ar bymtheg oed [[Cúchulainn]]. Llwydda byddin Connacht i gipio'r tarw tra mae Cúchulainn yn cyfarfod merch, ond mae Cúchulainn yn galw ar yr hen hawl i fynnu ymladd un yn erbyn un ger rhyd. Pery'r ymladd am fisoedd, gyda Cúchulainn yn gorchfygu rhyfelwyr gorau Connacht un ar ôl y llall. Pan ddaw Fergus, ei dad-maeth yn ei erbyn, mae Cúchulainn yn cytuno i ildio iddo ar yr amod fod Fergus yn ildio iddo ef yn tro nesaf. Yna mae'n ymladd brwydr hir yn erbyn ei frawd maeth [[Ferdiad]].
 
Yn y diwedd mae rhyfelwyr Wlster yn dechrau deffro, ac ymleddir y frwydr olaf. Mae Fergus yn cadw ei amod â Cúchulainn ac yn tynnu ei ryfelwyr o'r maes, a gorfodir byddin Medb i encilio. Maent yn llwyddo i ddwyn Donn Cuailnge yn ôl i Connacht, lle mae'n ymladd a Finnbhennach. Lleddir Finnbhennach, ond mae Donn Cuailnge ei hun yn cael ei glwyfo'n farwol.
 
==Llyfryddiaeth==