Porthmon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
tacluso a Blwch tacson using AWB
Llinell 2:
[[Delwedd:Banc y Ddafad Ddu dwy bunt.JPG|250px|bawd|Papur £2 '''Banc y Ddafad Ddu''']]
 
Defnyddir y gair '''Porthmon''' am rywun sy'n [[Gyrru gwartheg|gyrru anifeiliaid]] dros bellter hir i'w gwerthu. Roedd y porthmyn yn elfen bwysig iawn yn economi Cymru yn y [[18fed ganrif]] yn arbennig. [[Buwch|Gwartheg]] oedd yn cael eu gyrru gan amlaf, ond byddai [[Dafad|defaid]] a hyd yn oed gwyddau yn cael eu gyrru.
 
Ceir cofnod o borthmyn yn [[gyrru gwartheg]] o Gymru i Loegr i'w gwerthu cyn gynhared a'r [[14eg ganrif]], ond cyrhaeddodd y fasnach yma ei huchafbwynt yn ystod y [[18fed ganrif]]. [[Llundain]] oedd y gyrchfan fwyaf poblogaidd i'r porthmyn Cymreig, a datblygodd [[Smithfield]] ar gyrion y ddinas i fod y farchnad anifeiliaid fwyaf yn y byd.
 
Byddai'r porthmyn yn cario symiau sylweddol o arian ar eu taith yn ôl wedi gwerthu'r anifeiliad, ac yn aml roedd pobl eraill oedd angen gyrru arian i rywle arall yn eu roi i'r porthmyn i'w trosglwyddo. Roedd perygl oddi wrth ladron pen-ffordd, a bu hyn yn symbyliad i ddatblygiad nifer i fanciau. Sefydlwyd [[Banc yr Eidion Du]] yn [[Llanymddyfri]] gan borthmon o'r enw David Jones yn [[1799]]. Parhaodd y banc yma nes i Fanc Lloyds ei brynu yn [[1909]]. Sefydlwyd [[Banc y Ddafad Ddu]] gan borthmyn defaid [[Tregaron]] ac [[Aberystwyth]] yn gynnar yn y [[19eg ganrif]].
 
Diflannodd y porthmyn yn raddol yn ystod y [[19eg ganrif]], oherwydd datblygiad y rheilffyrdd a rhesymau eraill. Yr unig olion bellach yw'r ffyrdd porthmyn, yn enwedig ar dir uchel mewn gwahanol rannau o Gymru.
 
==Ffyrdd y porthmyn yng Nghymru==
Roedd rhwydwaith o lwybrau yn cael eu defnyddio gan y porthmyn yng Nghymru i gael yr eidionau i'r farchnad. Er mwyn osgoi talu tollau ar y [[fford dyrpeg|ffyrdd tyrpeg]] byddai'r porthmyn yn dilyn hen lwybrau dros wlad. Pedolid y gwartheg cyn cychwyn a byddai rhaid eu pedoli eto sawl gwaith cyn diwedd y daith. Tua ugain milltir oedd y pellter arferol mewn diwrnod i'r gyrroedd.
 
Roedd un o'r llwybrau yn cychwyn ym [[Môn]]. Byddai'r gwartheg a gesglid o'r ffermydd ar yr ynys gan y porthmyn yn cael eu gyrru i [[Porthaethwy|Borthaethwy]], a chyn codi'r pontydd presennol byddai rhaid iddynt nofio'r [[Afon Menai|Fenai]] gyda gwŷr mewn cychod i ofalu amdanynt. Yng nghyffiniau [[Bangor]] deuai porthmyn eraill â gwartheg o [[Arfon]] a rhannau o [[Penrhyn Llŷn|Lŷn]]. Aent a'r eidionau i fyny mewn gyrroedd mawr trwy [[Nant Ffrancon]] (ar yr hen lôn sydd yno ar ochr orllewinol y cwm o hyd), i [[Capel Curig|Gapel Curig]], ac yna ymlaen i [[Llanrwst|Lanrwst]], dros [[Mynydd Hiraethog|Fynydd Hiraethog]] i [[Abergele]] (fu'n ganolfan bwysig i'r porthmyn), i fyny [[Dyffryn Clwyd]] ac yna i [[Llandegla|Landegla]]. Mae Llandegla yn bentref bychan tawel heddiw, ond bu'n fan cyfarfod pwysig ar lwybrau porthmyn y gogledd. O Landegla gyrrid y gwartheg naill ai i [[Llangollen|Langollen]] (llecyn pwysig arall lle ymunai gyrroedd o Feirion a'r cylch) neu i [[Wrecsam]], ac oddi yno i Loegr ac i lawr am Lundain, gan amlaf. Yng Ngheredigion, roedd llwybrau o [[Tregaron|Dregaron]] a [[Llanddewi Brefi]] tros y mynydd i [[Abergwesyn]]. Roedd yna lwybrau tebyg o bob rhan o orllewin Cymru, gyda'r rhai pwysicaf yn cychwyn o [[Sir Feirionnydd|Feirionnydd]] a [[Sir Gaerfyrddin|Sir Gâr]].