Bwystori: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B cat
→‎top: tacluso a Blwch tacson using AWB
Llinell 5:
Roeddynt yn arbennig o boblogaidd yn [[Ffrainc]] a [[Lloegr]] yn y [[12fed ganrif]], ond deilliant o ffynonellau cynharach. Yr enghraifft gynharaf a gafodd ei phoblogeiddio oedd cyfrol [[Groeg (iaith)|Roeg]] o'r [[2ail ganrif]] gan awdur anhysbys a adnabyddir fel y ''[[Physiologus]],'' ac roedd hynny yn ei thro yn tynnu ar wybodaeth a thraddodiadau hynafol a geir yn llyfrau rhai awduron claurol fel yr ''[[Historia Animalium]]'' gan [[Aristotlys]] a gweithiau eraill gan [[Herodotus]], [[Pliny yr Hynaf]], [[Solinus]], [[Aelian]] a naturiaethwyr eraill.
 
Helaethwyd ar y ''Physiologus'' gan Sant [[Isidore o Seville]] (Llyfr XII o'r ''[[Etymologiae]]'') a Sant [[Ambrose]], a Gristioneddiodd y cynnwys trwy dynnu ar hanesion o'r [[Hen Destament]]. Yn ddiweddarach daeth yn arfer creu bwystoriau darluniedig, e.e. ''Sallwyr Isabelle'' (Llyfrgell Daleithiol [[Munich]]). Enghraifft enwog arall yw [[Bwystori Aberdeen]], un o'r enwocaf o'r tua hanner cant o fwystoriau darluniedig sydd wedi goroesi. Lluniodd [[Leonardo da Vinci]] ei fwystori ei hun.
 
Er na chafwyd llawysgrifau darluniedig o'r bwystoriau yng [[Cymru|Nghymru]], cyfieithwyd y ''[[Bestiaire d'Amour]]'', bwystori serch gan y Ffrancwr [[Richart de Fornival]], i'r [[Gymraeg]] ar ddiwedd yr Oesoedd Canol a dechrau'r cyfnod modern. Mae'r ''Bestiaire d'Amour'' (Bwystori Serch) yn cynrychioli panllanw traddodiad seciwlar sydd â'i wreiddiau yng ngwaith y [[trwbadwr]]iaid, yn enwedig [[Rigaut de Barbezieux]] (fl. 1170-1210).