Kraftwerk: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Huw P (sgwrs | cyfraniadau)
Huw P (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 33:
[[File:Kraftwerk by Ueli Frey (1976).jpg|thumb|left|Kraftwerk gan Ueli Frey (1976)|350x350px]]
[[File:Kraftwerk Vocoder custom made in early1970s.JPG|thumb|Vocoder a wedi'i adeiladu gan Kraftwerk eu hunain ar ddecharu'r 1970au]]
Roedd grwpiau Almaenig y cyfnod yn chwilio am sut orau i ddatblygu ei steil eu hun. Nid oeddent am gopïo grwpiau Eingl-Americaniad neu gerddoriaeth Affro-Americaniad gan deimlo nad oeddent yn dod o'r un cefndir ac nad oedd rhythmau Soul neu Funk yn dod yn naturiol iddynt.

Nid oeddent chwaith yn gallu troi am ysbrydoliaeth i ddiwylliant na thraddodiadau'r Almaen am iddynt fod a chywilydd am [[Natsïaeth]]. Roedd llawer o bobl ifanc yr Almaen yn credu roeddent ar ddechrau ''Stunde Null'' (blwyddyn dim) ac rhaid iddynt greu diwylliant newydd sbon gan edrych tua'r dyfodol a'r tu allan. Dechreuodd nifer o grwpiau arbrofol yr Almaen ymddiddori yn ffuglen-wyddonol ''(Science Ficiion)'' a enwyd eu steil o gerddoriaeth ''Kosmische musik'' (cerddoriaeth cosmig).
 
Ym 1970 daeth Ralf Hütter a Florian Schneider-Esleben at ei gilydd wrth astudio cerddoriaeth glasurol yn Conservatoire Dusseldorf. Ffufiwyd ''Kling-Klang Studio'' ganddynt, eu recordiaiad cyntaf oedd ''Tone Float'' gyda grŵp o'r enw Organisation.