Homo sapiens: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
siart Stringer
tacluso a Blwch tacson using AWB
Llinell 24:
 
==Enw==
Y Naturiaethwr [[Carl Linnaeus]] a fathodd yr enw, a hynny 1758.<ref>{{cite book|last=Linné|first=Carl von|title=''Systema naturæ. Regnum animale.''|year=1758|pages=18, 20|url=http://www.biodiversitylibrary.org/item/80764#page/28/mode/1up|edition=10|accessdate=19 Tachwedd 2012}}. </ref>
Yr enw [[Lladin]] yw ''homō'' (enw genidol ''hominis'') sef "[[dyn]], bod dynol" ac ystyr ''sapien'' yw 'deallus'.
 
==Tarddiad==
Gyda thystiolaeth newydd yn cael ei darganfod yn flynyddol, bron, mae rhoi dyddiad ar darddiad y rhywogaeth ''H. sapiens'' yn beth anodd; felly hefyd gyda dosbarthiad llawer o esgyrn gwahanol isrywogaethau, a cheir cryn anghytundeb yn y byd gwyddonol wrth i fwy a mwy o esgyrn ddod i'r golwg. Er enghraifft, yn Hydref 2015, yn y cylchgrawn ''Nature'' cyhoeddwyd i 47 o ddannedd gael eu darganfod yn [[Ogof Fuyan]] yn [[Tsieina]] a ddyddiwyd i fod rhwng 80,000 a 125,000 o flynyddoedd oed.
 
Yn draddodiadol, ceir dau farn am ddechreuad ''H. sapiens''. Mae'r cynta'n dal mai o Affrica maent yn tarddu, a'r ail farn yn honni iddynt darddu o wahanol lefydd ar yr un pryd.
 
Ceir sawl term am y cysyniad 'Allan-o-Affrica' gan gynnwys ''recent single-origin hypothesis (RSOH)'' a ''Recent African Origin (RAO)''. Cyhoeddwyd y cysyniad hwn yn gyntaf gan [[Charles Darwin]] yn ei lyfr ''[[Descent of Man]]'' yn 1871 ond nid enillodd ei blwyf tan y [[1980au]] pan ddaeth tystiolaeth newydd i'r fei: sef astudiaeth o [[DNA]] ac astudiaeth o siap ffisegol hen esgyrn. Oherwydd gwydnwch y dannedd, dyma'n aml yr unig dystiolaeth sy'n parhau oherwydd fod gweddill y corff wedi pydru. Gan ddefnyddio'r ddwy dechneg yma i ddyddio ''Homo sapiens'', credir iddynt darddu o Affrica rhwng 200,000 a 125,000 o flynyddoedd yn ôl. Llwyddodd ''H. sapiens'' i wladychu talpiau eang o'r Dwyrain, ond methwyd yn [[Ewrop]] oherwydd fod yno gynifer o [[Neanderthal|Neanderthaliaid]]iaid yn ffynnu'n llwyddiannus. O astudio'r genynnau, credir yn gyffredinol i ''H. sapiens baru gyda Neanderthaliaid.
[[Delwedd:Homo-Stammbaum, Version Stringer-cy.svg|bawd|chwith|450px|Siart 'Stringer' o esblygiad sawl rhywogaeth o'r [[genws]] ''Homo'' dros ddwy filiwn o flynyddoedd cyn y presennol (CP). Mae'r cysyniad "Allan o Affrica" i'w weld ar frig y siart.]]
 
Llinell 48:
[[Categori:Pobl| ]]
[[Categori:Bioleg]]
[[CategoryCategori:Bodau dynol]]
[[CategoryCategori:Hominina]]