Ffontygari: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
amrywiol
Llinell 1:
Pentref ger [[Y Rhws]] ar arfordir [[Bro Morgannwg]], de [[Cymru]], yw '''Ffont-y-gari''' (llurguniad Saesneg: ''Fontegary'').
 
Gorwedd y pentref i'r de-orllewin o'r [[Y Barri|Barri]] ger [[Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd]], prif faes awyr y wlad. I’r gogledd mae Fonmon[[Ffwl-y-mwn]] a [[Castell Ffwl-y-mwn|Chastell FonmonFfwl-y-mwn]].
 
Mae tarddiad yr enw yn ansicr, ond yn 1587, roedd e wedi ei gofnodi fel “Fundygary”.
 
Nid oes llawer yn y pentref bychan heblaw tai, gwersyllfa gwyliau a thraeth caregog. Ar DyddDdydd Sul, mae yna arwerthiant cist ceir yn y wersyllfa gwyliau. Mae yna chwarel rhwng FontFfont-y-GaryGari ac Aberthaw[[Aberddawan]] sydd ddim yn cael ei ddefnyddio.
 
Yn 1928 roedd Ffont-y-gari yn lle poblogaidd i gael picnic, ac yn 1943, cafodd Ffont-y-gari ei ddisgrifio fel “cyrchfa haf dymunol gyda thraeth hyfryd ar gyfer ymdrochfa, yn ymyl elltydd ysgithrog sydd yn creu cefndir hyfryd - a hefyd lle cyfleus i nofiwr i newid ei ddillad.” Mae’r traeth creigiog a’r elltydd yn hynod ac mae yna ogof fawr o’r enw Ogof Ffont-y-gari. Yn y 1960au, lluniodd Francis Lymburner arfordir Ffont-y-gari yn ei luniau pen ac inc Cymreig. Aeth yr actores Susan George ar ei gwyliau yn y wersyllfa gwyliau fel plentyn.