Lolita: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
#redirect:''Gweler hefyd [[Lolita (gwahaniaethu)]].''
 
Mae '''Lolita''' ([[1955]]) yn [[nofel]] gan [[Vladimir Nabokov]]. Ysgrifennwyd y nofel yn [[Saesneg]] a'i chyhoeddi yn 1955 ym [[Paris|Mharis]]; yn ddiweddarach cyfieithodd Nabokov y gwaith i'w [[Rwseg]] frodorol a chafodd ei gyhoeddi yn [[1967]] yn [[Efrog Newydd]]. Mae'r [[nofel]] yn enwog ledled y byd am ei harddull arloesol a'i thestun tra dadleuol, sef obsesiwn rhywiol arwr ac adroddwr y stori Humbert Humbert am ferch ddeuddeg oed o'r enw Dolores Haze ('Lolita' y teitl).
 
Ar ôl ei chyhoeddi, daeth y nofel yn glasur modern yn yr iaith Saesneg, gan ddod yn un o lyfrau mwyaf adnabyddus a dadleuol [[llenyddiaeth]] yr [[20fed ganrif]]. Daeth yr enw "Lolita" yn rhan o ddiwylliant poblogaidd cyfoes i ddisgrifio merch ifanc ymwybodol o'i rhywioldeb.
 
Mae'r mofel wedi cael ei haddasu ar gyfer y sgrin fawr ddwywaith; yn gyntaf yn [[1962]] yn y [[ffilm]] gan [[Stanley Kubrick]] gyda [[James Mason]] fel Humbert Humbert, ac eto yn [[1997]] gan [[Adrian Lyne]], yn serennu [[Jeremy Irons]].
 
[[Categori:Nofelau Saesneg]]
[[Categori:Llyfrau 1955]]
 
[[en:Lolita]]