Ardudwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Mae'n bosibl fod Ardudwy yn 'wlad' (teyrnas) annibynnol yn y Gymru gynnar. ''Túath'' yw'r gair [[Gwyddeleg]] sy'n cyfateb i 'wlad' / 'teyrnas' yn Gymraeg Canol; ei wraidd yw ''tud'', 'gwlad, pobl'. Dyna a geir yn yr enw Ardudwy (''ar'' + ''tud'' + ''-wy'') a meddylir fod yr enw yn dynodi'r llwyth a fu'n byw yn yr ardal.
 
Yn ddiweddarach cafodd Ardudwy ei rannu'n ddau gwmwd, gydag [[Afon Artro]] fel ffin rhyngddynt, sef [[Ardudwy Uwch Artro]] ac [[Ardudwy Is Artro]] (eto'n rhan o gantref Dunoding).
 
Tir gwyllt a mynyddig yw Ardudwy, gyda mynyddoedd y [[Rhinogau]]'n asgwrn cefn iddo. Roedd hen ffordd yn cysylltu [[Tomen y Mur]] a'r arfordir gan redeg trwy fwlch [[Drws Ardudwy]]. Eithriad yw'r gwastadeddau ar hyd yr arfordir lle ceir yr unig drefi o bwys heddiw. Er na fu erioed yn ardal gyfoethog mae'n llawn hanes a hynafiaethau. Yn [[Harlech]] yn Ardudwy mae llys [[Bendigeidfran]] yn [[Branwen ferch Llŷr|Ail Gainc y Mabinogi]]. [[Ystumgwern]], Is Artro, oedd [[maerdref]] y cwmwd.