Ellis Wynne: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
llun arall
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Llenor crefyddol a chyfieithydd oedd '''Ellis Wynne''' ([[7 Mawrth]], [[1671]] - [[13 Gorffennaf]], [[1734]]). Mae'n adnabyddus fel awdur ''[[Gweledigaethau y Bardd Cwsc]]'', a ystyrir yn un o glasuron [[llenyddiaeth Gymraeg|rhyddiaith Gymraeg]].
 
==Bywyd==
[[Delwedd:Lasynys_Fawr_Harlech.jpg|250px|bawd|Y Lasynys, cartref Ellis Wynne. Mae'r adeilad yn dyddio o tua [[1600]] ond cafodd ei adnewyddu'n sylweddol gan y llenor yn y cyfnod 1715-20]]
Ganed Ellis Wynne yn Y Lasynys (neu'r Lasynys Fawr), ffermdy sylweddol rhwng [[Talsarnau]] a [[Harlech]], yn yr hen [[Sir Feirionnydd]] (de [[Gwynedd]]), yn fab i Edward Wynne o blasdy Glyn Cywarch (heb fod ymhell o'r Lasynys). Roedd yn deulu o fan uchelwyr gyda chysylltiad â theulu [[Brogyntyn]], ger [[Croesoswallt]]. Trwy ei daid Elis Wyn roedd Ellis Wynne yn perthyn i [[Edward Jones (Maesgarnedd)]], un o'r rhai a lofnododd warant dienyddio'r brenin [[Siarl I o Loegr]].
 
Yn wahanol i Edward Jones o Faesgarnedd roedd Ellis Wynne yn frenhinwr pybyr. Mae manylion ei yrfa yn ansicr, ond ymddengys iddo dreulio cyfnod yn Ysgol Ramadeg [[yr Amwythig]]. Mae cerdd [[Lladin|Ladin]] gan Wynne yn awgrymu cysylltiad ag Ysgol Ramadeg [[Biwmares]] yn ogystal. Aeth i [[Prifysgol Rhydychen|Rydychen]] lle graddiodd yn [[1692]] yn 21 oed. Mae'n bosibl ei fod wedi cwrdd â'r athrylith amlddawn [[Edward Lhuyd]] tra yno. Yn [[1698]] priododd â'i wraig gyntaf, Lowri Wynne.
Llinell 8 ⟶ 9:
Cafodd ei ordeinio'n [[offeiriad]] a [[diacon]] yn [[Eglwys Loegr]] yng [[Eglwys Gadeiriol Bangor|eglwys gadeiriol Bangor]] yn Rhagfyr [[1704]]. Daeth yn rheithor plwyfi [[Llanbedr]] a [[Llandanwg]] yn [[1705]] ac wedyn cafodd ofalaeth [[Llanfair]], ger Harlech, yn [[1710]]. Yn [[1711]] priododd â'i ail wraig, Lowri Lloyd o [[Hafod Lwyfog]] (ger [[Aberglaslyn]]) a symudodd i'r Lasynys eto lle bu fyw am weddill ei oes.
 
==Gwaith llenyddol==
Cyfieithodd Ellis Wynne ''Rheol Buchedd Sanctaidd'' (o waith Saesneg [[Jeremy Taylor]]) yn [[1701]] ac argraffiad o'r ''[[Llyfr Gweddi Gyffredin]]'' yn [[1710]].
 
Ond ei brif waith llenyddol yw'r testun rhyddiaith ''[[Gweledigaethau y Bardd Cwsc]]'' ([[1703]]), seiledig yn fras ar gyfieithiad Saesneg o'r llyfr ''Los Suenos'' ('Y Breuddwydion') gan y [[Sbaen]]wr [[Quevedo]] (1580-1645). Llyfr [[bwrlesg]] a ysgrifennwyd mewn [[Cymraeg]] naturiol a choeth sy'n mynegi safbwynt brenhinwr ac eglwyswr ar gyflwr y wlad yn ei oes yyw'r ''Gweledigaethau''. [[Gweledigaeth]] o Lys Angau a geir yno, ac mae'n bosibl fod Wynne wedi bwriadu ail gyfrol ar Lys [[Paradwys]] yn olyniant iddo. Yn ogystal â disgrifiadau llawn dychymyg o [[Uffern]] a [[dychan]] deifiol, ceir fel gwrthgyferbyniad trawiadol ddarnau o ryddiaith swynol iawn, yn arbennig yr agoriad enwog sy'n disgrifio'r wlad o gwmpas Harlech trwy sbienddrych yr awdur.
 
Roedd Ellis yn gasglwr a chopïydd [[llawysgrifau Cymreig]] yn ogystal, ca un o'r llawysgrifau a gafodd oedd un yn cynnwys nifer o [[canu darogan|gerddi darogan]], gan gynnwys rhai a dadogwyd ar "Y Bardd Cwsg" ([[Rhys Fardd]]).
Llinell 31 ⟶ 33:
[[Categori:Genedigaethau 1671|Wynne, Ellis]]
[[Categori:Marwolaethau 1734|Wynne, Ellis]]
 
[[en:Ellis Wynne]]