Cragen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Newydd
Llinell 1:
[[Delwedd:Selection of seashells.jpg|bawd|Casgliad o gregyn]]
'''Cragen''' (neu "stone" yn Saesneg) yw darn fawr o defnydd caled, fel arfer wedi cael ei ffeindio ar ytraeth.
Rhan allanol o gorff [[anifail]] yw '''cragen''' (lluosog: '''cregyn''') sy'n bywyd yn y môr. Yn aml, gwelir llawer o gregyn gwag wedi'u gadael ar draethau, gan y llanw; mae'r rhain yn wag gan fod corff meddal yr anifail naill ai wedi cael ei fwyta gan anifail arall neu wedi hen bydru. Ceir math arall o gregyn, sef cregyn [[gastropod]]au fel y [[malwen|falwen]], sy'n byw ar y tir. Mae'r erthygl hon yn ymwneud â chregyn morol yn unig.
 
Ysgerbwd allanol [[infertebrat]] (anifail heb asgwrn cefn) ydyw ac mae'r rhan fwyaf o'r cregyn a ganfyddir ar draethau'n perthyn i [[Molwsg|folysgiaid]] [[môr|morol]] - yn rhanol gan fod y cregyn hyn yn galetach na mathau eraill. Ar wahân i gregyn molysgiaid ceir hefyd lawer o gregyn gwichiaid, [[cranc]]od a [[braciopod]]au. Mae'r [[Anelid|llyngyr cylchrannog]] o [[teulu (bioleg)|deulu]]'r ''Anelid'' yn ffurfio cragen siâp tiwb o [[calsiwm carbonad|galsiwm carbonad]] (sydd a fformiwla cemegol: [[Calsiwm|Ca]][[Carbon|C]][[Ocsigen|O]]<sub>3</sub>); mae'r tiwbiau hyn yn cael eu gludo i wrthrychau fel [[carreg]].
 
Mae pobl wedi defnyddio cregyn ers miloedd o flynyddoedd ar gyfer gwahanol ddibenion, gan gynnwys tlysau neu lestr i ddal hylif.
 
Ceir cregyn mewn dŵr croyw yn ogystal â dŵr hallt e.e. ceir math o [[cregyn glesion]] sy'n byw mewn dŵr croyw, a does na ddim llawer o wahaniaeth rhwng y ddau fath o gragen.
 
==Geirdarddiad==
*[[Llydaweg|Hen Lydaweg]]: '''crogen'''
*Llydaweg Canol: '''croguenn'''
 
Mae'r cofnod cynharaf o'r gair 'cragen' yn ymddangos yng ngwaith [[Iolo Goch]]<ref>''Cywyddau Iolo Goch ac Eraill''; gol: Henry Lewis, Thomas Roberts ac Ifor Williams (1937).</ref>
:''Pam na bu farw, garw gaerug,''
:''Gwyddelyn march cregyn Cryg?''
a chanodd [[Ieuan ap Rhydderch]] amdani, tua'r un amser:
:''Torri ar ergyd idrwystr''
:''Gragen deg ar osteg rwystr.
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
[[Categori:Swoleg]]
[[Categori:Bywydeg]]