Gruffudd ap Gwenwynwyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Morfuddnia (sgwrs | cyfraniadau)
→‎Llyfryddiaeth: dolen i'r Bywgraffiadur
Llusiduonbach (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 4:
Roedd Gruffudd yn fab i [[Gwenwynwyn ab Owain]] a Margaret Corbet. Pan oedd yn blentyn, gyrrwyd ei dad o'i dywysogaeth gan [[Llywelyn Fawr]], a bu farw yn Lloegr yn [[1216]]. Treuliodd Gruffudd ei ieuenctid yn Lloegr. Wedi marwolaeth Llywelyn, bu raid i [[Dafydd ap Llywelyn]] ddod i gytundeb a [[Harri III, brenin Lloegr]] yn [[1241]]. Dan delerau'r cytundeb yma, derbyniodd Gruffudd y rhan fwyaf o'r tiroedd fu'n eiddo ei dad, gan wneud gwrogaeth i Harri amdanynt. Tua'r adeg yma, priododd [[Hawys Lestrange|Hawise]], merch John Lestrange o [[Knockin]].
 
Pan ddechreuodd [[Llywelyn ap Gruffudd]] ymestyn ei awdurdod yng Nghymru wedi [[1255]], parhaodd Gruffudd yn gefnogol i goron Lloegr, ac yn [[1257]] gyrrwyd ef o'i deyrnas eto. Yn 1263 cytunodd i drosglwyddo ei wrogaeth i Lywelyn, dan y bygythiad y byddai'n colli ei diroedd yn barhaol os na wnaiwnâi, a chadarnhawyd hyn yng [[Cytundeb Trefaldwyn|Nghytundeb Trefaldwyn]] yn 1267.
 
Bu raid iddo ffoi i Loegr eto wedi cynllwyn i lofruddio Llywelyn yn 1274. Wedi rhyfel 1277, pan orfodwyd LLywelyn i ildio ei diroedd tu allan i Wynedd dan delerau [[Cytundeb Aberconwy]], cafodd Gruffudd ei diroedd yn ôl eto. Cefnododd Gruffudd [[Edward I, brenin Lloegr]] yn rhyfel 1282, er ei fod yn hen ŵr erbyn hyn.