Sioe gerdd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Man olygu using AWB
Llusiduonbach (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Ffurf o [[adloniant]] yw '''sioe gerdd''' sy'n cyfuno [[cerddoriaeth]], [[dawns]] ac weithiau'r iaith lafar. Perthyna'n agos i [[opera]], ond yn gyffredinol bydd sioe gerdd yn defnyddio cerddoriaeth boblogaidd, tra na cheir defnydd o sgwrs mewn [[opera]]. Ceir eithriadau er hynny.
 
Datblygodd sioeau cerdd cynnar allan o'r [[operetta]]. Bu [[Jacques Offenbach]] yn [[Ffrainc]], [[Joseph Parry]] yng Nghymru a [[Gilbert a Sullivan]] yn [[Lloegr]] yn llwyddiannus iawn yn creu Opperettas, gyda cherddoriaeth ysgafnach na opera, a chyda sgwrsio. Yn sgil poplogrwyddpoblogrwydd yr operettas cynnar, datblygodd y sioeau cerdd cynnar, gan roi pwyslais ar actorion enwog oedd yn perfformio ac ar eitemau dawns mawr. Daeth '[[Broadway]]' yn [[Dinas Efrog Newydd|Efrog Newydd]], a'r '[[West End Llundain|West End]]' yn [[Llundain]] yn ganolfannau pwysig i'r diwydiant.
 
Mae [[Cymru]] hefyd wedi cyfrannu i fyd sioeau cerdd. Ymhlith yr actorion o Gymru sydd wedi perfformio yn y 'West End' mae [[Sian Cothi]] a [[Michael Ball]]. Ceir traddodiad diweddar o gyfansoddi sioe gerdd ar gyfer yr [[Eisteddfod Genedlaethol]]. Ymysg y sioeau yma ceir 'Pum Diwrnod o Ryddid' a gynhyrchwyd gan [[Gwmni Theatr Maldwyn]].