Cherokee: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llusiduonbach (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 6:
Pan ddaethant i gysylltiad ag Ewropeaid gyntaf yn y [[1600au]] roeddynt yn byw yn nwyrain a de-ddwyrain yr hyn sy’n awr yr [[Unol Daleithiau]], yn enwedig taleithiau [[Georgia (talaith UDA)|Georgia]], [[Gogledd Carolina]] a [[De Carolina]] . Ystyrid hwy yn un o’r [[Pum Llwyth Gwareiddiedig]]. Yn y [[1830au]], gyda phoblogaeth Ewropeaidd y tiriogaethau hyn yn cynyddu’n gyflym. gorfodwyd y rhan fwyaf ohonynt i symud tua’r gorllewin i [[Yr Ozarks|Lwyfandir Ozark]] yn yr hyn a elwir yn [[Llwybr y Dagrau]].
 
Yn olôl cyfrifiad 2000 yn yr Unol Daleithiau, y Cherokee yw’r mwyaf niferus o’r 563 llwyth brodorol yn yr Unol Daleithiau, y rhan fwyaf ohonynt yn [[Oklahoma]]. Yn y blynyddoedd diwethaf mae dadlau wedi bod a ddylai disgynyddion caethweision duon fu ym mherchenogaeth y Cherokee yn y cyfnod cyn [[Rhyfel Cartref America]] gael eu hystyried fel aelodau o genedl y Cherokee. Mae’r ddadl yn parhau yn 2007, gyda nifer o achosion llys.
 
==Cherokee enwog==