Daeareg Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B cat
→‎Hanes: diweddaru aelodau cynulliad a manion using AWB
Llinell 4:
==Hanes==
[[Delwedd:Wales from space.jpg|bawd|240px|chwith|Daeareg Cymru o'r awyr fel y mae heddiw.]]
Yn ystod y Cyfnod [[Proterosöig]], tua 520 miliwn o flynyddoedd yn ôl, nid oedd ynysoedd Prydain fel ag y maent heddiw. Yn hytrach, roedd yr Alban yn ran o'r cyfandir [[Laurentia]] a gweddill y tir yn ran o'r cyfandir [[Gondwana]].
 
Ganwyd y cyfandir [[Afalonia]] yn y Cyfnod [[Ordofigaidd]] pan oedd y cyfandiroedd yn dal i symud trwy weithgaredd [[symudiadau'r platiau|tectonig]], a ganwyd ynysoedd Prydain trwy wrthdrawiad rhwng cyfandiroedd. O ganlyniad i hyn cafwyd ffrwydriadau [[folcanig]] yng Nghymru. Mae'n bosib gweld olion y [[llosgfynydd]]oedd hyd at heddiw, er engraifft ar [[Rhobell Fawr|Robell Fawr]]. Roedd [[lafa]] yn gorchuddio rhan eang o Gymru ac [[Ardal y Llynnoedd]]. Yr adeg hon hefyd y ffurfiwyd [[llechfaen]] Cymru.
 
Yn ystod y Cyfnod [[Silwraidd]] ffurfiwyd mynyddoedd yr Alban ([[Orogenesis]]). Yng Nghymru, roedd y ffrwydriadau folcanic yn parhau. Gwelir lafa a lludw folcanig o'r cyfnod hwn yn [[Sir Benfro]].
 
Roedd gwrthdrawiad cyfandiroedd a'r gweithgarwch folcanig o achos [[symudiadau'r platiau]] yn parhau yn ystod y Cyfnod [[Defonaidd]]. Bu i lefel y moroedd newid lawer gwaith a thrwy hyn ymgasglodd [[gwaddod]]ion, gan ffurfio yr [[Hen Dywodfaen Coch]].
 
Yn ystod y Cyfnod [[Carbonifferaidd]] roedd Prydain ger y cyhydedd a'r môr yn gorchuddio'r tir. Ffurfiwyd [[calchfaen]] a [[glo]]. Roedd holl gyfandiroedd y ddaear yn un cyfandir mawr, [[Pangaea]], tua'r Cyfnod Carbonifferaidd ac roedd Prydain yng nghanol Panagea. Yn ystod hinsawdd sych y cyfnod ffurfiwyd y [[Tywodfaen Coch Newydd|Dywodfaen Coch Newydd]].