Helyntion Beca: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Aledwg (sgwrs | cyfraniadau)
→‎Achosion: Mae Dr David Howell yn cyfeirio at gwymp ym mhrisiau cynyrch yn ei draethawd 'The Rebecca Riots' 1988
Aledwg (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 34:
* Twf y boblogaeth yn rhoi pwysau ar y bobl wrth i ffermydd fynd yn llai (problem a waethygwyd gan system etifeddiaeth Cymru sydd yn rhannu tir rhwng pob perthynas gwrywaidd).
* Y dirwasgiad amaethyddol a ddechreuodd yn 1836 (a ddaeth i ben tua'r un amser a gorffennodd y terfysgoedd) a chyfres o gynaeafau gwael.
* Baich [[y degwm]], yr arian a dalwyd i'r [[Eglwys Loegr|Eglwys Anglicanaidd]] gan y ffermwyr. Achosodd anfodlonrwydd ychwanegol gan y ffaith mai anghydffurfwyr oedd rhan fwyaf o'r werin. Gwaethygwyd y baich gan Ddeddf Cymudiad y Degwm (1836) a seilio faint y degwm ar brisiau cnydau y 7 mlynedd cynt. O ganlyniad roedd yn rhaid i'r werin dalu degwm uchel er bod pris y cnydau'n y farchnad wedi disgyn<ref>[http://www.open.edu/openlearnworks/mod/oucontent/view.php?id=55150&printable=1] Howell 1988</ref>.
* Y diffyg cymorth i'r tlawd yn dilyn Deddf Gwella Cyfraith y Tlodion (1834) wnaeth diddymu cymorth allanol a gorfodi i'r tlawd weithio yn y Tlotai. Ymosododd Merched Beca ar dloty Caerfyrddin yn 1843.<ref>[http://www.workhouses.org.uk/Carmarthen/ The Workhouse, ''Carmarthen, Carmarthenshire'']</ref>
* Yr atgasedd at y tirfeddianwyr a'r rhent uchel roeddent yn ei godi. Roedd nifer ohonynt yn landlordiaid absennol, a gwaethygwyd y gwrthdaro gan wahaniaethau mewn iaith (nid oedd y rhan fwyaf yn siarad Cymraeg) a chrefydd Anglicaniaid oedd gan y rhan fwyaf, i'w gymharu a'r werin Anghydffurfiol, Gymraeg). Gweinyddwyd nifer o'r Gwmnïau Tyrpeg atgas gan yr un tirfeddianwyr, a hwy oedd yn Ynadon yn y Llysoedd hefyd! Roedd y gyfraith a'r achosion llys Saesneg (nas deallwyd gan y werin uniaith Cymraeg) yn rheswm arall am yr anfodlonrwydd. Bygythiwyd tirfeddianwyr ymysg parchedigion Anglicanaidd gan lythyron o ferched Beca.