Llywydd Senedd Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 2:
'''Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru''' yw'r llywydd a etholir gan [[Aelod Cynulliad Cenedlaethol Cymru|Aelodau Cynulliad Cymru]] yn y [[Cynulliad Cenedlaethol Cymru|Cynulliad Cenedlaethol]] i gadeirio eu sesiynau llawn (plenari), i gadw drefn yn y siambr, ac i amddiffyn hawliau'r Aelodau. Er bod gan y Llywydd enw Saesneg (''Presiding Officer of the National Assembly for Wales''), defnyddir y teitl '''Llywydd''' ar lawr y Cynulliad yn y ddwy iaith.
 
Yn ogystal mae'n arwain y corff yn y Cynullaid a adweinir fel [[Comisiwn y Cynulliad]] ac felly'n gweithredu fel cynrychiolydd i'r sefydliad ar achlysuron swyddogol. Etholir un [[#Dirprwy LlywyddLywydd|Dirprwy Lywydd]] i'w gynorthwyo. Lleolir swyddfa'r Llywydd yn Nhŷ Hywel ar [[Bae Caerdydd|Fae Caerdydd]].
 
Yr unig bobl i ddal y swydd hyd yn hyn yw [[Dafydd Elis-Thomas]] (a apwyntiwyd am y tro cyntaf yn 1999, ac eto am yr ail a'r trydydd dro yn 2003 a 2007), [[Rosemary Butler]] (a apwyntiwyd yn 2011) ac [[Elin Jones]] (a apwyntiwyd yn 2016).<ref>http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/36266554</ref><ref>http://www.cynulliad.cymru/cy/memhome/Pages/Etholiad.aspx</ref>